CYMDEITHAS YR IAITH YN GALW AR Y GWEINIDOG ADDYSG I YMYRRYD YN SYTH
Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Powys i baratoi achos dros ad-drefnu addysg a allai arwain at gau Ysgol Pennant (sy'n gwasanaethu cymuned bentrefol Gymraeg Penybont-Fawr ac yn ysgol lwyddiannus gyda 82 o ddisgyblion ynddi), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg i ymyrryd yn syth i gynghori'r Cyngor Sir y byddant yn torri'r Côd Trefniadaeth Ysgolion os na byddant yn diwygio eu cynlluniau.
Esboniodd Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas:
"Mae'r Côd statudol diwygiedig (2018) yn mynnu fod Awdurdod Lleol yn cychwyn ymchwiliad gyda rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig. Mae Ysgol Pennant ar restr swyddogol ysgolion gwledig y llywodraeth, ac eto mae Cyngor Powys am gychwyn ymchwilio i gynnig sydd o'r cychwyn am gau Ysgol Pennant a symud y plant i dderbyn addysg gyfrwng Cymraeg yn Llanrhaeadr ym Mochnant. Mae'r cynllun yn gwbl wallus gan ei fod yn torri'r côd statudol, ac yn cael effaith botensial o wael ar addysg Gymraeg gan fod yr ysgol ar hyn o bryd yn denu plant o bentrefi eraill fel Llanwddyn a gallai rhieni - o golli Ysgol Pennant - symud eu plant yn hytrach at ffrwd neu ysgol Saesneg wahanol er mwyn hwylustod personol o ran gwaith neu gysylltiad teuluol. Mae'r cynigion hyn hefyd yn cyfeirio ymlaen llaw at bosibiliad cau ysgolion eraill gan gynnwys ysgolion eglwysig a fyddai'n creu problemau ychwanegol i'r Cyngor.
"Ar ben hyn oll, byddai'n debyg o fod yn amhosibl cynnal ymgynghoriad dilys yn y Gwanwyn oherwydd argyfwng Covid, ac felly ni ddylid parhau gyda chynlluniau sy'n destun gwrthwynebiad lleol a byddai'r gymuned leol ym Mhenybont-fawr yn gwrthwynebu'r cynnig yn chwyrn. Ar adeg fel hyn, ni ddylai'r Cyngor wastraffu arian ar ymchwil i gynigion nad oes posibl iddynt gael eu gweithredu a chanolbwyntio'n hytrach ar y cynigion eraill lle mae cytundeb o ran y buddsoddiad newydd. Dylai'r Cyngor gynnig opsiwn gwahanol yn achos Penybont-fawr fel ffederasiwn rhwng Ysgol Pennant ac Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant gan anrhydeddu’r ymrwymiadau a roddwyd i’r ddwy gymuned. Mae’r Côd Ysgolion ei hun yn mynnu fod Awdurdod yn ymgynghori’n anffurfiol i gychwyn i geisio cytundeb. Mae ymddygiad y Cyngor wedi torri pob rheol."