Dogfennau a Erthyglau

Awst 1998. Agenda ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwyniad

GwÍl Cymdeithas y laith Gymraeg sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o'r digwyddiadau pwysicaf yn holl hanes diweddar Cymru. Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd ’ hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.

Llawlyfr Deddf Eiddo - papur gwaith 2: Tai a Chynllunio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen (308KB).

Mehefin 1999. Yr angen am frwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol.

A. Rhagair

Cyhoeddir y papur hwn yn ystod Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan ym Mehefin 1999 - ychydig o fisoedd cyn diwedd y mileniwm - a'n dadl yw y bydd angen brwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol. Nid oes sicrwydd am oroesiad yr ysgolion, nac am y cymunedau Cymraeg chwaith.

Rhagfyr 1999. Sut i gynnal Cyfarfodydd Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rhagair

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf wedi galw am Gynulliad Cenedlaethol trwyadl ddwyieithog. Er mwyn sicrhau hynny rhaid wrth fwy na system gyfieithu effeithiol. Mae'n rhaid gwneud yn siwr hefyd fod aelodau'r Cynulliad yn gwneud y defnydd helaethaf posibl o'r Gymraeg ac yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny.

Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gorffennaf 2001

CRYNODEB

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau pasio Deddf Iaith Newydd fydd yn gosod seiliau i normaleiddio dwyieithrwydd yng Nghymru.

00. SYLWADAU CYFFREDINOL

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau pasio Deddf Iaith fydd yn cydnabod:

MANIFFESTO 2002 - Y Gymraeg yn Goroesi Globaleiddio

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen (138KB).

Mae Cymdeithas yr Iaith yn amheus o Gylch Garchwyl adolygiad y Pwyllgor Addysg yn yr un modd ag yr ydym yn amheus o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Diwylliant ei hunan yn ei adolygiad. Amau ydym na ellir cynnal adolygiad llwyddiannus o sefyllfa'r iaith tu fewn i fframwaith pwyllgor arbennig fel Diwylliant ac y dylid yn hytrach archwilio fel y mae holl benderfyniadau'r Cynulliad yn effeithio ar yr iaith.

TYSTIOLAETH I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN AC I'R GWEINIDOG ADDYSG JANE DAVIDSON AR RAN LLYWODRAETHWYR YSGOL GYNRADD WIRFODDOL LLANFIHANGEL-AR-ARTH - MEWN CYDWEITHREDIAD A GRWP ADDYSG CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

1. Y BROSES YMGYNGHOROL

1.1 Cyflwynwn y dystiolaeth hon fel rhan oír broses ymgynghorol ar ddyfodol addysg gynradd yn yr ardal hon.

Dyma'r cyflwyniad 'Power Point' a gafodd ei ddefnyddio yn ystod Lobi Y Gymraeg - Hawliau Cyfartal? yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2006. Yn cyfrannu i'r lobi yr oedd Leanne Wood (AC Plaid Cymru), Catrin Dafydd (Caeirydd grwp Deddf Iaith), Alun Thomas (Comisiwn Hawliau Anabledd), Chris Myant (Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol). Mae'r cyflwyniad wedi ei drosi i PDF:

Lawrlwytho'r Cyflwyniad dwyieithog (384KB)

Mesur yr Iaith Gymraeg 2007 (PDF, 112KB)

Mesur a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu i’r iaith Gymraeg, a hithau’n briod iaith Cymru, fod yn iaith swyddogol yng Nghymru; i roi hawliau i bobl Cymru gael gwasanaethau yn Gymraeg, gweithio yn Gymraeg a dysgu’r Gymraeg; i sefydlu Comisiynydd Iaith Cymru; i sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg; ac i ddibenion cysylltiedig.