Dogfennau a Erthyglau

Mae ymatebion Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriadau Cyngor Ceredigion ar gynigion i gau ysgolion gwledig y sir i'w gweld isod.

Ysgol Craig yr Wylfa

Ymateb rhanbarth Ceredigion

Ymateb y Grŵp Addysg

We welcome the intention to legislate in this area, and we are pleased to see cross-party consensus behind the objectives of the Bill in the scrutiny process so far. All political parties now accept that the Welsh language belongs to everyone in Wales, that the language should be a fundamental right for every child in Wales, and that bold legislation is needed to make this a reality.

Rydym yn croesawu’r bwriad i ddeddfu’n y maes hwn, ac yn falch o weld consensws trawsbleidiol dros amcanion y Bil yn y broses graffu hyd yma. Derbynia pob plaid wleidyddol bellach bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, y dylai’r iaith fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru, a bod angen deddfwriaeth flaengar er mwyn gwireddu hyn.

Cyflwynwyd cwyn gan Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith na wnaeth Cyngor Sir Ceredigion gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac wedi methu cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn Cod Trefniadaeth Ysgolion (Argraffiad 2018).

y gŵyn yw nad yw'r cyngor wedi dilyn y camau cywir wrth i'r Cabinet benderfynu cychwyn ymgynghoriad statudol i gau pedair ysgol wledig Gymraeg yn y sir – sef Ysgolion Craig-yr-Wylfa, Syr John Rhys, Llanfihangel-y-Creuddyn a Llangwyryfon - ar sail Papurau Cynnig sydd yn rhagdybio o blaid cau y bedair ysgol.

Mae ein hmateb ni i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ychwanegu cyrff at reoliadau presennol ar Safonau'r Gymraeg i'w weld trwy bwyso yma.

AT AELODAU PWYLLGOR TROSOLWG A CHRAFFU CYMUNEDAU SY'N DYSGU - Cyngor Ceredigion

Annwyl Gyfeillion

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru wedi cynnal arolwg o gynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau Cymru yn 2026.

Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i'w weld trwy bwyso yma.

Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno cwyn ffurfiol am broses a gweithdrefnau’r Comisiwn wrth ddatblygu Cynigion Cychwynnol Arolwg 2026.

Annwyl aelodau’r Cabinet,

Ysgrifennwn atoch mewn perthynas ag eitem 14 cyfarfod y Cabinet ar 17 Gorffennaf, Strategaeth Hybu’r Gymraeg y Cyngor.

Er bod nifer o gynlluniau da yn y ddogfen, rydym yn pryderu’n ddybryd am y diffyg uchelgais sydd ynddi. Er bod mesurau yn cael eu gosod a ffyrdd o fesur cynnydd yn cael eu cynnig, does dim targedau o ran cynnydd ynghlwm ag unrhyw un o’r pwyntiau hyn - dim ond un targed sydd yn y Strategaeth (cynnydd o 1.5% yn y canran o drigolion y sir sy’n medru’r Gymraeg).