Apel funud olaf at Gyngor Sir Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl funud olaf at arweinydd Cyngor Sir Gwynedd i dynnu nôl y bygythiad i gau dwsinau o ysgolion cynradd Cymraeg, o flaen cyfarfod allweddol heddiw o’r Pwyllgor Craffu Addysg.

Mewn neges dros nos at arweinydd y Cyngor, mynodd y Gymdeithas fod y cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei atal dros dro er mwyn galluogi trafodaeth ledled y sir ynglyn â dyfodol ein hysgolion pentrefol.Dywedodd Ffred Ffransis, Llefrydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:“Mae’r cynllun drafft yn sicr wedi canolbwyntio meddyliau pobl. Nawr gofynnwn i’r Cyngor i gael y gras i beidio mynd ymlaen gyda’i gynlluniau, ond i ganiatau ymgynghoriad brys ledled y sir er mwyn i’r cynllun newydd gael ei ffurfio gyda chefnogaeth y bobl.”Mae pobl sy'n poeni am ddyfodol ysgolion cynradd pentrefol Gwynedd, yn cael eu hannog gan y Gymdeithas i ymgasglu y tu allan i Swyddfa Ardal Arfon Cyngor Gwynedd, Penrallt, yng Nghaernarfon am 1yp heddiw (Iau, 25/10) cyn y bydd Pwyllgor Craffu'r Cyngor yn cyfarfod i drafod y cynlluniau.