Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers.