Archif Newyddion

16/05/2009 - 10:19
Daeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw.
12/05/2009 - 09:59
Bydd yr ymgyrch i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith (LCO) yn dod i'w benllanw Ddydd Sadwrn Mai 16eg pan fydd Rali Fawr yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.Caiff y Rali ei gynnal ar adeg tyngedfennol oherwydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi clywed bydd aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cymhwysedd Deddfwriaethol Rhif 5 (iaith Gymraeg) ar Ddydd Llun, Mai 18fed.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Ers i'r Gorchymyn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, mae consensws gref wedi datblygu ymysg pleidiau
11/05/2009 - 09:36
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal piced Dydd Sadwrn tu allan i siop Morrisons yng Nghaergybi i alw am hawl i weithio drwy'r Gymraeg.
06/05/2009 - 14:49
Bydd hysbyseb tudalen llawn yn hyrwyddo rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gaiff ei chynnal tu alla
05/05/2009 - 19:32
Er bod sylwadau negyddol wedi'u clywed gan un o aelodau o'r Ceidwadwyr yng nghyfarfod Pwyllgor sy'n craffu ar Orchymyn yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg a'r iaith Gymraeg, Paul Davies AC, wedi datgan ei fod ef yn cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylid datganoli'r holl bwerau dros y Gymraeg i'r Cynulliad yng Nghymru.Dywed Paul Davies AC:"Rwy'n cy
01/05/2009 - 14:10
Mae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr.
27/04/2009 - 18:57
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog.
24/04/2009 - 15:20
Rhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,
23/04/2009 - 09:58
Am 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf.
31/03/2009 - 09:30
Tra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang.