Archif Newyddion

01/07/2008 - 18:28
Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg.
01/07/2008 - 10:49
Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.
19/06/2008 - 22:42
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill.
18/06/2008 - 09:39
Fe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
17/06/2008 - 09:39
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".
09/06/2008 - 13:11
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i ymyrryd er mwyn sicrhau na all Cyngor Sir Caerfyrddin ruthro trwodd fwriad i gau nifer sylweddol o ysgolion pentrefol Cymraeg.Wedi 15 munud o hunan-longyfarch, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn argymhelliad i adolygu dyfodol 11 o ysgolion a chychwyn trafodaethau mewn nifer o rai eraill – a hynny o fewn
09/06/2008 - 10:13
Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr.
06/06/2008 - 11:55
Llofnodwch y ddeiseb yma - deiseb.cymdeithas.org Coleg Ffederal CymraegGalwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:1. Statws a chyfansoddiad annibynnol2.
05/06/2008 - 15:34
Fe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.
05/06/2008 - 10:29
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.