Archif Newyddion

15/01/2009 - 12:50
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad i sicrhau hawliau i bobl Cymru i’r GymraegMae’n ymddangos y bydd Aelodau Seneddol yn San Steffan yn gwanhau drafft Gorchymyn Iaith y Cynulliad ar ôl ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Yn sgil hyn, byddant yn bygwth hawl pobl Cymru i’r Gymraeg.
13/01/2009 - 14:58
Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
10/01/2009 - 15:48
Yn dilyn bron i flwyddyn o ymgyrchu yn erbyn cwmnïau yn y sector breifat bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn y Brifddinas ar stryd fawr mwyaf Cymru heddiw i dynnu sylw'r busnesau mawr a'r Llywodraeth am yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith:"Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros y misoedd diwethaf gan lobio a gweithredu'n uniongyrchol yn erb
10/01/2009 - 00:33
Yfory, ddydd Sadwrn 10 Ionawr 2009 mi fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali ger Cofgolofn Aneurin Bevan ar Heol y Frenhines, Caerdydd. Wrth ddisgwyl cyhoeddi’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar yr Iaith Gymraeg, bydd y Gymdeithas yn galw ar Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, i sicrhau y bydd y Gorchymyn yn ddigon eang a phwerus i alluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno deddfwriaeth iaith gynhwysfawr.
10/12/2008 - 18:14
Gall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.
27/11/2008 - 11:16
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig. Mae'r Gymdeithas yn benodol yn croesawu y sylwadau y dylai Awdurdodau Lleol gymeryd y broses o ymgynghori gyda chymunedau lleol o ddifrif ac y dylai effaith unrhyw ad-drefnu ar yr iaith Gymraeg fod yn brif ffactor wrth gymeryd penderfyniad.
19/11/2008 - 23:54
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
07/11/2008 - 00:51
Heddiw fe ddychwelodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith i Orsaf Heddlu Aberystwyth i ateb eu mechnïaeth. Arestiwyd y chwe aelod yn y Rali Genedlaethol bythefnos yn ôl fel rhan o'r brotest 'Rhybudd Olaf' oedd wedi ei drefnu i ddwyn sylw'r Llywodraeth i'r angen am Ddeddf Iaith Newydd
06/11/2008 - 00:22
Ddydd Iau (6 Tachwedd, 2008) mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwneud cyflwyniad ger bron pwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y ddeiseb, sydd a 977 o enwau arno, i Lywodraeth Cymru ddechrau'r haf oherwydd fod Cymdeithas yr Iaith yn gofidio fod y Llywodraeth yn llusgo traed ar fater sefydlu'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un.
25/10/2008 - 23:54
Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol lwyddiannus yn Aberystwyth, gyda dros 100 o bobl yn bresennol, cafodd chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio. Yn gyntaf fe arestiwyd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhys Llwyd yr Is- Gadeirydd Ymgyrchu am beintio'r slogan 'MESUR IAITH CYFLAWN' ar wal adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth.