Mae bron i hanner o gynghorau Cymru yn methu darparu gwersi nofio yn y Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd ble mae nifer fawr o blant yn dysgu'r iaith, yn ôl ffigyrau a gasglwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.Mae naw awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu gwersi nofio trwy'r Saesneg yn unig, gan gynnwys Cyngor Sir Caerdydd, gyda chwe chyngor heb gofnodi'r data ynglyn â pha iaith cynhelir y gwersi.Yn Sir Gâr, cyfaddefodd yr awdurdod lleol fod llai nag un y cant o wersi nofio - 10 gwers allan o 6,200 - oedd wedi ei ddarparu yn y Gymraeg ym mhwll nofio Rhydaman llynedd, er bod 62% o boblogaeth