Methodd y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan gwrdd ag unrhyw fudiad gwirfoddol yn ystod y broses o drosglwyddo pwerau iaith i'r Cynulliad, er ei fod yn ddigon bodlon cwrdd â busnesau mawrion, mae dogfennau a ryddhawyd o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth wedi dangos.Yn ôl y wybodaeth a ddatguddiwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn ystod y trafodaethau ar y gorchymyn, mewn cyfres o 10 cyfarfod, cyfarfu'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan â sawl busnes mawr, ond dim un mudiad Cymraeg gwirfoddol yn cynrychioli siaradwyr neu ddefnyddwyr yr iaith.