Bu tri o Gymry blaenllaw yn cyfarfod ag Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth heddiw i bwyso arno o'r newydd i barchu statws swyddogol diamod i'r iaith Gymraeg.Daw'r cyfarfod gwta wythnos ar ôl i bedwar ugain a phump o awduron, beirdd, clerigyddion, ysgolheigion, artistiaid a phobl fusnes anfon llythyr agored at y Gweinidog Diwylliant.Dirprwyaeth o'r llythyrwyr hynny oedd yn bresennol, sef yr Athro Richard Wyn Jones, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, a'r ddarlledwraig adnabyddus Beti George.