Archif Newyddion

24/02/2011 - 11:24
Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith a garcharwyd ddeugain mlynedd yn ôl am 12 mis am ddringo mast teledu a thorri i mewn i stiwdios Granada ym Manceinion wedi dringo mast teledu Carmel, ger Cross Hands, am 7.30am heddiw a chodi baner y Tafod.
23/02/2011 - 12:53
Mae nifer o bobl ifanc Sir Gaerfyrddin wedi meddiannu adeilad y BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Mercher, 23/2/11) fel rhan o'r ymgyrch i atal cytundeb rhwng y BBC a S4C, gan ddweud y byddai'n dinsitrio annibyniaeth y sianel.Dros y penwythnos, fe ddaeth tua 300 o bobl leol i brotest tu fas i swyddfeydd y BBC yng Nghaerfyrddin i ddangos eu gwrthwynebiad i'r c
22/02/2011 - 14:33
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu diben prosesau ymgynghorol Cyngor Gwynedd ynghylch dyfodol ysgolion pentrefol Gymraeg yn dilyn argymhelliad arall i gau Ysgol y Parc.Ddydd Iau (24/2), bydd Pwyllgor Craffu Addysg y Cyngor yn ystyried argymhelliad y dylid parhau gyda'r bwriad i gau Ysgol y Parc yn ymyl Y Bala ym Medi 2012.
19/02/2011 - 15:24
Daeth cannoedd o bobl i gyfarfod protest 'Na i Doriadau S4C' tu allan i adeilad y BBC ar stryd Priordy Caerfyrddin heddiw.
17/02/2011 - 12:50
Mae mudiad iaith wedi beirniadu penderfyniad y BBC i beidio cael pabell yn Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe eleni.G?yl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw Eisteddfod yr Urdd, ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd ni fydd gan y BBC babell ar gyfer teuluoedd sydd yn mynychu'r digwyddiad.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bod penderfyniad y BBC yn dangos na fyddai S4C yn ddiogel o dan reolaeth y gorfforaeth:"Ar ben gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared o wefan Gymraeg, mae'r penderfyniad hwn gan y BBC yn dangos yn glir i ba ffordd mae'r gwynt yn chwy
11/02/2011 - 18:04
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb wrth i'r Mesur Iaith ddod yn gyfraith heddiw.Yn ystod y broses ddeddfu, cefnogwyd gwelliant aflwyddiannus gan 18 Aelod Cynulliad i Fesur Iaith a fyddai wedi golygu hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg, sef rhagdybiaeth gyfreithiol y gallai unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.Fe basiwyd y Mesur Iaith Gymraeg ym Mis Rhagfyr y llynedd a fydd yn sefydlu'r iaith fel un swyddogol a chreu rôl Comisiynydd Iaith, ond heb gynnwys hawliau i'r Gymraeg.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Trwy'r Mesur hwn, rydym wedi
09/02/2011 - 18:48
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwneud cwyn swyddogol i wasanaeth y llysoedd ar ol i swyddog awgrymu na ddylai pobl ddi-Gymraeg gefnogi'r iaith.Treuliodd Jamie Bevan dros hanner awr yn ceisio derbyn gwasanaeth Cymraeg yn ymwneud â'i achos ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iait
09/02/2011 - 12:30
Bydd ymgyrchydd iaith yn mynd o flaen y llys heddiw (Dydd Mercher, 9fed Chwefror) ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iaith gyflawn.Ar yr un dydd â'r achos, fe fydd y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn lansio ymgyrch newydd o'r enw "Hawliau i'r Gymraeg".
03/02/2011 - 23:45
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod penderfyniad y BBC i ddiddymu ei wasanaeth chwaraeon ar-lein Cymraeg yn dangos na fyddai S4C yn saff gyda'r gorfforaeth.Meddai Menna Machreth, llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Sut allwn ni ymddiried y BBC i ofalu am S4C yn iawn os mai dyma fel maen nhw'n trin y gwasanaethau Cymraeg sydd ganddyn nhw'n barod?
03/02/2011 - 23:41
Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r newyddion hyn, yn ogystal â phenderfyniad y BBC i ddiddymu rhan o'i gwasanaeth ar-lein yn y Gymraeg, yn destun pryder fawr iawn. Rydym ar fin colli rhywbeth unigryw - sef yr unig sianel deledu yn yr iaith Gymraeg yn y byd. Dyma pam rydym yn ymgyrchu yn erbyn cydgynllun y BBC a'r Llywodraeth i gwtogi'n enfawr ar gyllideb S4C. Mae miloedd o bobl wedi ymuno yn ein hymgyrch - trwy fynychu ralïau, cyfarfodydd ac ysgrifennu llythyrau er mwyn achub y sianel.