Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb wrth i'r Mesur Iaith ddod yn gyfraith heddiw.Yn ystod y broses ddeddfu, cefnogwyd gwelliant aflwyddiannus gan 18 Aelod Cynulliad i Fesur Iaith a fyddai wedi golygu hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg, sef rhagdybiaeth gyfreithiol y gallai unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.Fe basiwyd y Mesur Iaith Gymraeg ym Mis Rhagfyr y llynedd a fydd yn sefydlu'r iaith fel un swyddogol a chreu rôl Comisiynydd Iaith, ond heb gynnwys hawliau i'r Gymraeg.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Trwy'r Mesur hwn, rydym wedi