Wrth gyhoeddi manylion eu digwyddiadau gwleidyddol a gigs yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi apelio at Eisteddfodwyr i sicrhau bod tref Wrecsam yn elwa o'r ?yl.Bydd "Tren y Chwyldro" yr ymgyrchwyr iaith yn cychwyn bob dydd ar Faes yr Eisteddfod, wrth i'r mudiad iaith lansio ymgyrch bancio ar-lein gyda'r Aelod Seneddol lleol Susan Elan Jones, cynnal trafodaeth am ddyfodol cymunedau Cymraeg gydag AC Ll?r Huws Gruffydd, lansio eu cynlluniau ar gyfer 50 mlwyddiant y Gymdeithas, a chynnal rali S4C gyda Jill Evans ASE.Bydd y tren yn parhau i Orsaf Gano