Archif Newyddion

23/06/2011 - 10:00
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dringo gorsaf drosglwyddo heddiw (Dydd Iau, Mehefin 23) ac wedi darlledu fideo trwy eu ffôn symudol i ddangos eu pryderon am ddyfodol darlledu yng Nghymru.Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, os yw'r cynlluniau presennol i dorri S4C a rhoi'r sianel dan y BBC yn parhau gallai fod ddim byd i'w ddarlledu yn Gymraeg.
22/06/2011 - 19:46
Mae ymgyrchwyr ac undebau wedi cynnal lobi tu allan i gyfarfod rhwng Cadeirydd newydd y BBC Chris Patten ac Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd dros ddyfodol darlledu yng Nghymru heddiw (17:30, Mehefin 22).Yn yr hydref y llynedd, fe gytunodd y BBC i gymryd drosodd ariannu S4C fel rhan o ddel sydd yn golygu cwtogi ar gyllideb y sianel o dros bedwar deg y cant mewn termau real.
20/06/2011 - 10:18
Mae ymgyrchwyr wedi galw ar i benaethiaid y BBC dynnu allan o'u dêl toriadau gyda'r Llywodraeth, wrth ddechrau gwersyll tu allan i stiwdio yn y Gogledd dros ddarlledu heddiw (Dydd Llun, 20 Mehefin).Fe ddechreuodd tua dwsin o ymgyrchwyr gwersylla ar safle Bryn Meirion ger Prifysgol Bangor am tua wyth o'r gloch y bore.
17/06/2011 - 22:30
Mae mudiadau heddwch yn annog pobl i ymuno a nhw mewn gig i gofio Hiroshima a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.Ar nos Wener 5 Awst, fe fydd munud o dawelwch am hanner nos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam i gofio' rheiny a fu farw 66 mlynedd yn ôl.
10/06/2011 - 20:01
Mae'r seren bop Gruff Rhys yn annog Eisteddfodwyr i gael blas ar ei ffilm lwyddiannus am Batagonia yn ystod yr ?yl yn Wrecsam eleni.Mae Separado!, sydd yn daith bersonol i Gruff Rhys, yn rhoi Patagonia mewn cyd-destun diwylliannol ehangach yn yr Ariannin, ac yn pellhau ei hun oddi wrth y ffordd ramantus o ffilmio'r Cymry ym Mhatagonia.Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam ar
08/06/2011 - 14:44
Mae ymgyrchwyr iaith yn ystyried her gyfreithiol dros S4C yn dilyn cadarnhad gan swyddogion uchaf Ewrop heddiw y byddai dirwyiad mewn lefel gwasanaethau teledu Gymraeg yn groes i gyfraith ryngwladol.
07/06/2011 - 12:19
Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 7). Yn ystod ymweliad â Senedd Ewrop yn Strasbwrg bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Chomisiynydd Diwylliant Ewrop Androulla Vasilliou.
07/06/2011 - 10:18
Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 7).
05/06/2011 - 20:45
Mae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni.