Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaeth iaith yn fuan ar ôl yr etholiad nesaf, ar ôl i'r Gweinidog Diwylliant datgan heddiw na fydd un yn cael ei gyhoeddi cyn Mis Mai.Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n hollbwysig bod gan fudiadau iaith ar draws Cymru arweiniad clir am fwriad y Llywodraeth yngl?n â'r iaith. Rydym fel mudiad, fel nifer o sefydliadau eraill, wedi ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ddwywaith ar strategaeth iaith arfaethedig.