Grwp yn cwyno am 'sarhad' Llywodraeth y DG tuag at democratiaeth GymreigFe fydd nifer o fudiadau yn lansio grwp ymbarél newydd sydd yn ymgyrchu i achub S4C heddiw (10:30am, Dydd Llun 7fed Mawrth).Yn y lansiad byddant yn beirniadu Llywodraeth San Steffan am anwybyddu galwadau arweinwyr y pleidiau yng Nghymru am adolygiad llawn o'r sianel.Y mudiadau sydd wedi creu'r grwp ymbarél sydd am sefydlu S4C newydd sydd yn aml-gyfryngol, ydy BECTU, NUJ, Undeb yr Ysgrifenwyr, Equity, Undeb y Cerddorion, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.