Archif Newyddion

10/01/2011 - 10:34
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwydded teledu mewn protest yn erbyn y bygythiadau i S4C.Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch mis diwethaf, ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo.
15/12/2010 - 16:58
Mae protestwyr iaith wedi targedu swyddfa etholaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt heddiw (Dydd Mercher, Rhagfyr 15) mewn protest yn erbyn y toriadau i S4C a'r cynlluniau i uno'r sianel a'r BBC. Gosododd 3 ymgyrchydd bosteri lan ar swyddfa Jeremy Hunt yn Hindhead, Surrey.
14/12/2010 - 15:27
Am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu hyn a dylai fod yn destun balchder i'r genedl.Hoffwn gymryd cyfle i ddiolch i bob un sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch am ddeddf iaith newydd, nid yn unig dros y misoedd prysur diwethaf ond dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch i bob un ddaeth i rali neu brotest, i bob un a arwyddodd ddeiseb ac a lythyrodd; i'n haelodau benderfynodd weithredu'n ddi-drais; i'r rhai fu'n ein cynghori drwy'r broses a fu'n rhan o drefnu'r ymgyrch.
13/12/2010 - 21:49
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith y Llywodraeth. Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn croesawu gonestrwydd y Llywodraeth am y sefyllfa ieithyddol yng Nghymru, yn enwedig y ffocws ar ddefnydd yr iaith yn hytrach na niferoedd yn unig. Ond, er bod nifer o syniadau da yn y strategaeth, rydym yn amau parodrwydd gwasanaeth sifil y Llywodraeth i wireddu'r cynlluniau.
11/12/2010 - 21:03
Fe wnaeth dwsin o aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am nwyddau yn siop Marks and Spencers yn Nhostre, Llanelli, heddiw gan adael eu nwyddau yn eu troliau siopa a cherdded allan.
07/12/2010 - 20:55
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisiau diolch i'r Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd dros hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg. Pleidleisiodd 16 o blaid, 32 yn erbyn a dim yn ymatal.Roedd hawliau wedi ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un.
06/12/2010 - 10:46
Gwelliannau i'r Mesur Iaith ar y bwrdd - pleidlais hanesyddol gan Aelodau Cynulliad CymruMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu gohirio ei ymgyrch yn erbyn y Llywodraeth, a welodd 6 person yn cael eu harestio wythnos ddiwethaf, ar ôl i Aelod Cynulliad gyflwyno gwelliant i'r Mesur Iaith Gymraeg a fyddai'n sefydlu hawliau i'r Gymraeg.Dywed y mudiad ei fod
04/12/2010 - 11:00
Cynhelir rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd), yn erbyn toriadau arfaethedig S4C, a'r toriadau yn gyffredinol, fydd yn ôl y Gymdeithas yn niweidiol iawn i ddyfodol cymunedau Cymraeg.Fe fydd siaradwyr megis AS Arfon Hywel Williams, Silyn Roberts o'r Undeb Unsain, David Donovan o'r undeb BECTU, Hywel Roberts undeb y PCS, Daf
01/12/2010 - 21:56
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw fod Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans wedi cadarnhau y bydd yn ymuno ag ymgyrch y Gymdeithas i wrthod talu am ei thrwydded deledu oherwydd y bygythiad diweddar i ddyfodol y sianel Gymraeg.Yn ogystal, datganodd y Gymdeithas eu bod nhw'n lansio yn swyddogol eu hymgyrch i beidio talu'r drwydded heddiw gan fod y Llywodraeth ddim wedi dangos awydd i newid
30/11/2010 - 20:44
Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu heddiw i fwrw ymlaen â'r argymhelliad amhoblogaidd y dylai pob ysgol gynradd yn ardal Llandysul gau er mwyn creu un ysgol enfawr.