Archif Newyddion

31/01/2011 - 10:32
Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd y BBC yng Nghaerdydd y bore yma. Aeth yr ymgyrchwyr, gan gynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab Gwynfor Evans, i mewn i adeilad y BBC gan gyhuddo'r darlledwr o weithredu mewn modd 'annemocrataidd' wrth gymryd S4C (Sianel Pedwar Cymru) drosodd.
27/01/2011 - 19:12
Mae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a'r hanesydd Dr Meredydd Evans ymysg rhagor o bobl sydd wedi datgan heddiw (Dydd Iau, Ionawr 27) eu bod nhw'n gwrthod talu eu trwydded deledu, wrth i ymgyrchwyr iaith ddechrau cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i drafod dyfodol S4C.Mae ymgyrchwyr iaith yn pryderu am ddyfodol y sianel ar ôl i Lywodraeth Prydain ddatgan ei bwriad i gwtogi ar gyllideb y sian
26/01/2011 - 17:53
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod y toriadau newydd i Gwasanaeth y Byd yn dangos na fydd S4C yn saff yn nwylo'r BBC.Fe fydd 650 o swyddi yn mynd yn y gwasanaeth ar ôl i'r Llywodraeth torri ei grant i'r sianel 16% a'i hariannu trwy'r ffi drwydded, cynllun tebyg i'r un a gynigiwyd ar gyfer S4C.Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu'r mudiad:"Nid yw'r cwtogiadau
25/01/2011 - 12:32
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad Prifysgol Aberystwyth i benodi Is-ganghellor newydd sydd yn ddi-Gymraeg.Fe ddywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae rhaid ei bod yn ddydd Ffwl Ebrill heddiw.
21/01/2011 - 12:31
Achosodd protestwyr iaith oedi i lansiad swyddogol canolfan celfyddydau newydd gan y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 21).Fe ddaeth tua 16 o brotestwyr ynghyd gyda phosteri yn dweud "Ble mae'r Gymraeg?", "Pontio, fflop i'r gymuned a'r Gymraeg", ac "A fo ben bid fflop" gan lwyddo i atal y seremoni lansio swyddogol rhag mynd yn ei flaen am tua 20 munud.Mae'r
19/01/2011 - 11:51
Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a'r iaith Gymraeg.Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynllun fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55. Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i'r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr.
18/01/2011 - 15:35
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw'r Gweinidog Darlledu Ed Vaizey yn ddi-glem ar ol iddo gyflwyno tystiolaeth am S4C i ASau heddiw.Cyfaddefodd y Gweinidog, sydd yn gyfrifol am S4C yn y llywodraeth, heddiw nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel ac nad oedd sicrwydd am arian i'r sianel ar ol 2015 chwaith.Fe ddywedodd, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams:"Mae'n anhygo
18/01/2011 - 11:50
Rhagair Argraffiad NewyddWedi ffurfio llywodraeth newydd yn Llundain ym Mai 2010, penderfynodd y Glymblaid Geidwadol/Ryddfrydol gwtogi'n ddifrifol ar wariant cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng ariannol a achoswyd ynghynt gan y banciau yn y sector breifat.Bw
15/01/2011 - 15:00
Bron i bumdeg mlynedd ar ôl darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd y mudiad yn rhannu ei gweledigaeth ar sut i sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy - mewn araith o'r enw Tynged yr Iaith 2. Bydd rhai o aelodau'r mudiad yn darllen yr araith arbennig yma ym Mlaenau Ffestiniog ar y penwythnos (2pm, Dydd Sadwrn, Ionawr 15fed) a bydd plant ysgol y parc, ysgol mewn cymuned Cymraeg sydd o dan fygythiad, yn canu yn ystod y digwyddiad.
11/01/2011 - 20:17
Mae Undebau Llafur ac ymgyrchwyr iaith yn galw ar benaethiaid y BBC ac S4C i dynnu allan o drafodaethau gydag Adran Diwylliant y DG am ddyfodol y darlledwr Cymraeg.Ofna'r grwpiau pwyso fod trafodaethau tu ôl i'r llenni yn digwydd cyn sgrwitneiddio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus - a fyddai'n caniatáu cwtogi dros 40% o gyllideb y sianel, newidiadau yn y drefn lywodraethol a'i diddymu'n llwyr - yn San Steffan.Mewn datganiad dywed undeb llafur BECTU: "Mae trafodaethau rhwng y BBC a S4C yn amhriodol cyn penderfyniadau a thrafodaethau yn San Steffan.