Archif Newyddion

15/09/2011 - 16:21
Mae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhy'r Cyffredin heddiw.Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli Penfro) oherwydd iddynt anwybyddu barn eu cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol a feirniadodd y cwtogi a'r newidiadau i'r sianel mewn adroddiad trawsbleidiol yn gynharac
14/09/2011 - 18:47
Mae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15).Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus mewn ymdrech i dynnu S4C allan o'r Mesur.
07/09/2011 - 16:22
Gall fod dim allbwn Cymraeg ar Radio Ceredigion yn fuan ar ôl i'r rheoleiddiwr darlledu OFCOM ganiatáu i'r tendr am drwydded fynd allan heb unrhyw amodau iaith i'r gwasanaeth.Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgyrch gref yn lleol fis Gorffennaf a lwyddodd i wrthod cais perchnogion Radio Ceredigion - Town and Country Broadcasting - i gwtogi ar allbwn Cymraeg presennol yr orsaf.Ym mis Mawrth 2010, gofynnodd Bwrdd yr Iaith Gy
05/09/2011 - 20:17
Mae gwleidyddion o dair plaid wedi lansio menter drawsbleidiol i achub S4C yn Nhy'r Cyffredin heddiw (Dydd Llun, 5 Medi).
01/09/2011 - 17:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gymunedau sydd mewn peryg o golli eu hysgolion i "ddal eu tir" gan ddweud y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl.
26/08/2011 - 16:00
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedi cyfarfod ysgrifennydd diwylliant llywodraeth San Steffan, Jeremy Hunt, yng Nghasnewydd heddiw, er mwyn dweud wrtho fod rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus.
24/08/2011 - 09:12
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwahodd pawb yng Nghymru i gyfrannu at ffilm dorfol arbennig am yr iaith fel rhan o ddathliadau hanner cant mlwyddiant y mudiad.Taflen hyrwyddo (PDF)Mae'r mudiad iaith yn galw ar Gymry Cymraeg i greu ffilmiau munud o hyd - gyda eu ffonau symudol neu gamerau - yn portreadu'r profiad o fod yn Gymro/Gymraes Cymraeg.
23/08/2011 - 13:13
Fe gafodd ymgyrchydd iaith ei garcharu am wythnos heddiw (Dydd Mawrth, Awst 23) ar ôl iddo gymryd rhan mewn protest dros ddyfodol S4C.
16/08/2011 - 13:02
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, i anfon neges frys at Gyngor Sir Fflint yn eu rhybuddio i beidio â gwastraffu amser ac arian ar gynllun a fyddai'n tanseilio addysg Gymraeg yn y sir.Am 2.30pm brynhawn yfory (Mercher 17/8), bydd y Cyngor yn trafod cynigion i orfodi ysgolion cynradd Cymraeg yn Nhreffynnon a Threuddyn i ddod i drefniant ffurfiol a rhannu campws gydag ysgolion Saesneg cyfagos.
15/08/2011 - 14:38
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu. Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin.