Archif Newyddion

11/06/2016 - 21:22
Heb allu mynd i bencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc, neu eisiau rhywbeth i'ch atgoffa o'r bencampwriaeth, beth gwell na chrys pêl-droed wedi ei arwyddo gan un o'r chwaraewyr - Joe Allen? Dyna fydd un o'r gwobrau mewn ocsiwn bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei chynnal yng nghlwb pêl-droed Aberystwyth ar y 9fed o Fedi - ond rydyn ni'n croesawu cynigion o flaen llaw.
09/06/2016 - 17:03
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu sylwadau'r Gweinidog Chris Grayling heddiw wrth iddo
07/06/2016 - 06:14
Datganiad gan Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Gyda Llywodraeth newydd wrth y llyw ym mae Caerdydd, mae cyfle i garedigion y Gymraeg ymgyrchu o'r newydd er mwyn sicrhau gweithredu er lles yr iaith. Cyn yr etholiad, cytunodd aelodau o bob plaid sydd yn y Cynulliad newydd (ac eithrio UKIP) gydag egwyddorion ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg: 
01/06/2016 - 21:22
Mae mudiadau ymgyrchu wedi dod ynghyd ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (1pm, Dydd Mercher, 1af Mehefin) er mwyn tynnu sylw at y degau o filoedd o blant sy'n cael eu hamddifadu o fedru'r Gymraeg bob blwyddyn oherwydd y gyfundrefn addysg.
29/05/2016 - 11:09
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio heddiw yn Sgwâr Canolog Caerdydd er mwyn galw ar Gyngor Caerdydd i fabwysiadu polisïau cynllunio sy'n sicrhau tegwch i'r Gymraeg yn y brifddinas. Mae datblygwyr y Sgwâr Canolog yn cael eu beirniadu am mai enw uniaith Saesneg sydd ar y datblygiad - ‘Central Square’ - ac fod holl arwyddion yr ardal yn uniaith Saesneg.
23/05/2016 - 12:25
Mae ymgyrchwyr iaith wedi collfarnu'r toriadau i'r Coleg Cymraeg a gyhoeddwyd heddiw gan alw ar i'r Llywodraeth eu gwrth-droi drwy gyllido'r Coleg yn uniongyrchol. 
20/05/2016 - 17:25
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pantycelyn mae aelodau Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod eu gwaith ymgyrchu wedi talu ffordd, er bod ambell bryder o hyd. Dywedodd Manon Elin, aelod o Gell Pantycelyn: