Archif Newyddion

10/08/2015 - 17:11
Wrth gynnal protest wrth uned Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, 7fed Awst fe wnaeth aelodau Cymdeithas yr Iaith adael hen gar gyda’r geiriau “Cymraeg Ail Iaith” arno o flaen y stondin. Esboniad y Gymdeithas yw fod dysgu Cymraeg Ail Iaith yn “write-off” ac yn fethiant addysgol. Dywed y Gymdeithas na ellid trwsio na gwella model methedig Cymraeg Ail Iaith a bod angen i’r llywodraeth yn hytrach gyflwyno yn y cwricwlwm newydd Cymraeg i bawb ar hyd continwwm iaith  gan sicrhau bod pob disgybl yn codi trwy wahanol lefelau o hyfedredd.
06/08/2015 - 11:12
Mae rhai archfarchnadoedd mawr yn gwrthod darparu rhagor o arwyddion Cymraeg oherwydd y bydden nhw'n anodd i gwsmeriaid eu deall, dyna un o gasgliadau ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (2pm, Dydd Mercher, 5ed Awst) gan fudiad iaith.   
31/07/2015 - 15:40
Gigs yn y COBRA, Meifod  
27/07/2015 - 10:09
Wedi i Weithgor Powys gyfarfod ddydd Gwener a derbyn papur fframwaith fel sail i'w waith mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei fod yn ddatblygiad cadarnhaol sydd angen adeiladu arno. Meddai Elwyn Vaughan, ymgyrchydd lleol:
25/07/2015 - 18:53
Mae mudiad iaith wedi gwrthdystio y tu allan i orsaf drenau Heol y Frenhines, Caerdydd heddiw i fynnu bod Network Rail yn newid prif arwydd yr orsaf sy’n uniaith Saesneg ar hyn o bryd. 
20/07/2015 - 15:39
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i gyhoeddiad papur gwyrdd Llywodraeth Prydain am siarter y BBC. 
17/07/2015 - 10:19
Wrth ymateb i benderfyniad Cyngor Sir Benfro ddoe i dderbyn argymhellion ynglŷn â newidiadau i addysg yng ngogledd a de orllewin y sir, dywedodd Bethan Wiilliams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith: