Archif Newyddion

13/05/2015 - 11:16
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud eu bod yn gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo canolfan Gymraeg y Saith Seren gyda'u costau rhent, cyn i weision sifil gwrdd â'r rheolwyr heddiw.   
11/05/2015 - 16:56
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ychwanegu at ddyletswyddau a chyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel yr unig ffordd o sicrhau ei ddyfodol.   Disgwylir cyhoeddiad buan gan y Llywodraeth am bwy fydd yn cael cytundeb i arwain maes Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol, ac mae'r Gymdeithas yn pwyso am roi'r swyddogaeth hon i'r Coleg Cymraeg.  
05/05/2015 - 17:27
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r ffaith y gall y Gymraeg fod yn rheswm statudol i gynghorwyr wrthod neu dderbyn ceisiadau cynllunio yn sgil pleidlais yn y Cynulliad heddiw ar y Bil Cynllunio.   Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi bod yn ymprydio gyda thros 30 o aelodau eraill y mudiad iaith dros newidiadau i'r ddeddfwriaeth:
04/05/2015 - 12:25
Mae dros ugain o bobl wedi cychwyn ymprydio heddiw er mwyn tynnu sylw at yr angen i wella'r Bil Cynllunio er lles y Gymraeg cyn pleidlais yn y Cynulliad. [Cliciwch yma i anfon ebost i gefnogi'r ymprydwyr]
27/04/2015 - 09:37
Ar ôl derbyn llythyr gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae rhai o'n haelodau a'n cefnogwyr lleol wedi mynd ati i 'blannu' a galw bod gwreiddio'r Gymraeg yn y sefydliad. Bythefnos yn ôl cododd ffrae wedi i arwyddion uniaith Saesneg gael eu codi i hyrwyddo digwyddiadau yn yr Ardd ac iddi ddod yn amlwg fod yr Ardd yn torri ei gynllun iaith drwy ohebu yn uniaith Saesneg ac nad yw rhannau o'i wefan yn ddwyieithog. Dywedodd Amy Jones, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal:
24/04/2015 - 11:50
Deddfwriaeth yn 'Siartr i ddatblygwyr mawrion' medd Cymdeithas
13/04/2015 - 11:02
Ni ddylai'r Ardd Fotaneg dderbyn arian cyhoeddus tra ei bod yn torri ei chynllun iaith, dyna alwad ymgyrchwyr mewn llythyr at y Prif Weinidog ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin. Mae aelodau o ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am dorri ei chynllun iaith drwy godi arwydd uniaith Saesneg ar ochr yr M4 yn ddiweddar, a danfon gohebiaeth Saesneg.