Archif Newyddion

23/02/2015 - 10:38
Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi pastio posteri ar siop Morrisons yn Aberystwyth fel rhan o ymgyrch genedlaethol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn yr archfarchnad oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg.
18/02/2015 - 13:06
Mae caredigion yr iaith wedi cwyno bod ymgynghoriad ar gynlluniau i adeiladu tua wyth mil o dai yn sir Gwynedd ac Ynys Môn yn 'cau pobl allan' wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd yr holl gyfarfodydd cyhoeddus ar y cynllun yn ystod oriau gwaith.
16/02/2015 - 17:49
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi talu teyrnged i Dr John Davies, a fu farw heddiw.    John Davies oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.  
13/02/2015 - 15:35
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhoeddiad polisi Plaid Cymru ynghylch yr iaith Gymraeg. 
11/02/2015 - 11:27
Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan ei bwriad o geisio arfogi trigolion siroedd Gwynedd a Môn yn y broses o gasglu barn gyhoeddus am y cynllun tai, fydd yn cychwyn ar Chwefror 16 2015. Meddai Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd. “Fel rhai sydd wedi ymgyrchu yn erbyn gor-ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol ers blwyddyn a mwy, rydym yn grediniol ein barn bod y broses o lunio'r cynllun gorffenedig yn cyrraedd cyfnod allweddol iawn” Ychwanegodd -
11/02/2015 - 10:36
Rydym wedi beirniadu adroddiad a gyflwynwyd i Gyngor Sir Ceredigion sydd yn argymell cau ysgol bentref Gymraeg heb fod awdur yr adroddiad wedi ymweld â'r ysgol na siarad ag unrhyw un sy'n gysylltiedig yn benodol gyda'r ysgol.
06/02/2015 - 13:19
Mae Aelodau Cynulliad o'r tair gwrthblaid wedi gwneud datganiad ar y cyd heddiw yn galw ar i'r Gymraeg fod yn ganolog i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru.
04/02/2015 - 14:07
Gallai dyletswyddau newydd i gyrff ddarparu gwasanaeth Cymraeg gael eu hatal rhag pasio yn y Cynulliad os nad oes gwelliannau sylweddol iddyn nhw, dyna'r awgrym gan y tair gwrthblaid mewn llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog a gafodd ei ryddhau heddiw (4ydd Chwefror). Disgwylir i'r set gyntaf o safonau, a fydd yn creu hawliau iaith newydd wrth i bobl ddelio â chynghorau, Llywodraeth Cymru a'r parciau cenedlaethol, wynebu pleidlais ar lawr y Cynulliad rywbryd ym mis Mawrth.
30/01/2015 - 19:09
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'n wresog adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd am y Bil Cynllunio a gafodd ei gyhoeddi heddiw (Ionawr 30).