Archif Newyddion

30/10/2014 - 11:42
Mae cyn-Arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn cryfhau'r iaith ar lefel gymunedol.  
27/10/2014 - 19:18
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad cynhadledd Plaid Cymru, a gynhaliwyd yn Llangollen dros y Sul, i ddileu pob Cynllun Datblygu Lleol yng Nghymru. Mae pwyllgor gweithredu wedi cael ei sefydlu gan y mudiad ymgyrchu yng Ngwynedd a Môn oherwydd pryderon am effaith iaith cynlluniau'r siroedd i adeiladu wyth mil o dai. Dywedodd Ben Gregory ar ran y pwyllgor gweithredu:
21/10/2014 - 11:31
Ar ddydd Llun, Hydref 20, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynegi eu gwrthwynebiad chwyrn i gynlluniau Cyngor Gwynedd i gwtogi ar wariant. Bwriad y Cyngor yw cynnal ymgynghoriad i weld lle mae pobl yn dymuno gweld cwtogi. Maent yn gwerthu hyn fel 'Her Gwynedd' gan ofyn i bobl gymryd rhan hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud dim byd fel hyn o'r blaen. Meddai Angharad Tomos, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid yw Cyngor Gwynedd erioed wedi gofyn am ein barn ar wariant
17/10/2014 - 17:12
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i wneud yn gyhoeddus yr ohebiaeth rhwng Kevin Madge, arweinydd y cyngor a Carl Sargent, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio.
16/10/2014 - 14:19
Mae cell Dyffryn Teifi o Gymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn diolch iddo am ei ddiddordeb yn y Dyffryn, ond yn galw am weithredu i achub gwasanaethau lleol fel bod pobl ifainc am ymgartrefu yn y fro.
14/10/2014 - 13:04
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i gyngor Wrecsam beidio â thorri ei arian i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg. Mae Mudiad Meithrin yn darparu gwasanaethau addysg Cymraeg i blant blynyddoedd cynnar yn Sir Wrecsam ac mae'r Cyngor am dorri £23,000 o'i gyfraniad iddo. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg gan ofyn am ei barn ynghylch y posibilrwydd y gallai anfon plant i feithrin cyfrwng Cymraeg fod yn fwy costus na darpariaeth Saesneg.
10/10/2014 - 13:26
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud cais tan drefniadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am gyhoeddi cofnodion pwyllgor gan Gyngor Sir Caerfyrddin a sefydlwyd i hybu'r iaith Gymraeg. Sefydlodd y Cyngor Banel Ymgynghorol yr iaith Gymraeg wedi mabwysiadu strategaeth iaith newydd fis Ebrill diwethaf. Galwodd Cymdeithas yr Iaith am i gyfarfodydd y Panel fod yn agored i'r cyhoedd a bod cyhoeddi cofnodion ar wefan y Cyngor er mwyn hybu trafodaeth gyhoeddus, ond penderfynwyd Ddydd Llun Hydref 6ed mewn cyfarfod o'r Panel nad oedd hyn yn bosibl o ran cyfansoddiad y Cyngor.
09/10/2014 - 17:23
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r datganiad interim gan yr Athro Donaldson a gyhoeddwyd heddiw, ac yn dweud fod yr egwyddorion a restrir yn cadarnhau'r ddadl dros sicrhau fod pob disgybl yn dod i allu cyfathrebu'n Gymraeg. Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg Huw Lewis mae'r Athro Donaldson, a gomisiynwyd gan y llywodraeth i wneud adolygiad o'r cwricwlwm, yn rhestru'r egwyddorion a ddylent fod yn sail i gwricwlwm newydd.
06/10/2014 - 19:00
Dylai Carwyn Jones ymddiswyddo fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg am fod Bil Cynllunio a gafodd ei gyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Hydref 6ed) wedi methu rhoi lle canolog i'r iaith, yn ôl y grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.