Archif Newyddion

04/10/2014 - 23:03
"Rhaid i'r Gymraeg fod yn ganolog i'r drefn gynllunio", dyna oedd neges yr ymgyrchwyr iaith a ddaeth ynghyd ym Mhwllheli heddiw ar drothwy cyhoeddi Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru.  
03/10/2014 - 14:12
Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn Aberystwyth yn siomedig gyda gwasanaethau Cymraeg Morrisons wedi iddyn nhw gynnal arolwg yn siop Aberystwyth. Mae'r arolwg yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan Gymdeithas yr Iaith sydd yn gofyn i bobl ddweud y byddan nhw'n penderfynu peidio siopa yn Morrisons o fis Rhagfyr ymlaen, nes i'r siop roi chwarae teg i'r Gymraeg.
02/10/2014 - 12:34
Wrth i Banel Ymgynghorol sydd yn edrych ar y Gymraeg ar ran y Cyngor Sir Caerfyrddin gwrdd ddydd Llun nesaf, y 6ed o Hydref, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i gyfarfodydd y dyfodol fod yn rhai cyhoeddus. Mae'r Panel Ymgynghorol wedi cymeryd gwaith Gweithgor y Gymraeg a sefydlwyd i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd y Cyngor llawn adroddiad ac argymhellion ganddynt fis Ebrill eleni. Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:
30/09/2014 - 16:52
Wrth ymateb i'r newydd fod Mark James yn bwriadu ymadael a'i swydd fel Prif swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at arweinwyr y tri grwp gwleidyddol ar y Cyngor yn gofyn bod "cychwyn o'r newydd". Yn ei neges at arweinwyr y cynghorwyr Llafur, Plaid Cymru, ac Annibynnol, dywed Sioned Elin cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gar
22/09/2014 - 15:45
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg fynnu bod Undeb Rygbi Cymru yn cadw at reoliadau iaith newydd, wedi i'r corff gyhoeddi polisi iaith y mae'r ymgyrchwyr iaith yn galw yn un 'gwan'.   
21/09/2014 - 20:17
Na i or-ddatblygu: Cynllunio er budd ein cymunedau   Siaradwyr: Leanne Wood AC, Iwan Edgar, Toni Schiavone  
20/09/2014 - 08:00
'Hurt a sarhaus' dyna sut mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio penderfyniad yr asiantaeth gyrru i ddod â phrofion gyrru yn Gymraeg yn y Bala i ben.  
19/09/2014 - 13:18
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at Gyngor Sir Caerfyrddin i holi am y Fforwm Iaith arfaethedig a oedd i'w sefydlu y mis hwn yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gan nad yw'r Gymdeithas wedi clywed unrhyw beth am y fforwm gan y Cyngor, mae'n gofyn yn gellweirus a ydyw ei gwahoddiad "ar goll yn y post" !