Archif Newyddion

26/06/2015 - 09:04
Dylai ad-drefnu llywodraeth leol arwain at ragor o gyrff yn gweithio drwy'r Gymraeg, dyna yw prif neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn llythyr at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.   Daw'r alwad wedi i'r Gweinidog Leighton Andrews wahodd sylwadau ar fap o awdurdodau lleol newydd yn y Senedd. Ar hyn o bryd, Gwynedd yw’r unig awdurdod lleol lle mae’r holl waith mewnol yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. 
22/06/2015 - 18:55
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r datblygiadau diweddaraf ynghylch sefyllfa Neuadd Pantycelyn. 
19/06/2015 - 18:35
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y dylai'r Gweinidog Lesley Griffiths ymddiheuro am dorri cynllun iaith Llywodraeth Cymru wrth hysbysebu swydd y Comisiynydd Plant, yn sgil adroddiad damniol am ei hymddygiad. 
15/06/2015 - 16:47
Mae aelodau lleol o Gymdeithas yr Iaith wedi codi pryder fod hysbyseb swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi Cyngor Sir Gâr yn gamarweiniol gan fod gofynion sgiliau iaith Cymraeg yn sylweddol is na'r sgiliau angenrheidiol Saesneg. Bydd y Prif Weithredwr cynorthwyol yn gyfrifol am weithredu'r safonau iaith, strategaeth cyfathrebu a'r wasg, gwasanaethau cwsmeriaid a nifer o feysydd eraill felly mae Cymdeithas yr Iaith yn cwestiynu ble mae hyn yn gadael y sefydliad wrth iddo weithredu eu strategaeth iaith.
15/06/2015 - 14:43
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i bobl gefnogi ympryd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth er mwyn achub neuadd Pantycelyn.   Dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis: “Rydym yn galw ar i bawb gefnogi ymgyrch hollbwysig y myfyrwyr. Bydd nifer o aelodau'r Gymdeithas yn ymuno yn yr ympryd. Rwy'n gobeithio y bydd cefnogaeth eang i'w hymgyrch.”  
14/06/2015 - 10:26
Gyda phryder o hyd am ddyfodol Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth mae myfyrwyr wedi meddiannu un o goridorau'r neuadd. Roedd disgwyl i breswylwyr adael y neuadd erbyn 10am heddiw (dydd Sul 14eg o Fehefin) Dywedodd Gwilym Tudur, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith:
12/06/2015 - 16:37
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gofyn iddo ymyrryd er mwyn sicrhau bod neuadd Pantycelyn yn aros ar agor, cyn i Gyngor Prifysgol Aberystwyth benderfynu ar dynged y safle ymhen deg diwrnod.    
08/06/2015 - 15:55
Wrth i Gyngor Sir Powys gyhoeddi Cynllun Datblygu drafft, rydym wedi croesawu ymrwymiad yn y cynllun i atal y dirywiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir - ond yn rhybuddio bod yn rhaid ail-ystyried cynlluniau i adeiladu 6,000 o dai. Meddai Llion Pughe, o Gemaes, ar ran cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
05/06/2015 - 16:23
Mewn llythyr at aelodau Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a fydd yn cwrdd i drafod dyfodol Neuadd Pantycelyn, mae Cell Pantycelyn wedi galw ar y Cyngor i beidio cau ar y Neuadd. Mae testun y llythyr isod. I gefnogi ymgyrch Pantycelyn:
02/06/2015 - 17:18
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Cyngor Sir Ddinbych am fwrw ymlaen gyda chynllun i israddio addysg Gymraeg drwy gau Ysgol Pentrecelyn.  Meddai llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg Ffred Ffransis: