Archif Newyddion

14/07/2015 - 14:38
Dylai Llywodraeth nesaf Cymru gynllunio i gyrraedd un miliwn o siaradwyr Cymraeg, dyna oedd un o brif alwadau Cymdeithas yr Iaith heddiw wrth iddynt lansio eu cynigion polisi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Yn y ddogfen, a fydd yn cael ei lansio yn y Senedd, mae degau o syniadau sy'n anelu at gyrraedd tri nod cyfartal - creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob maes bywyd. Mae'r ddogfen weledigaeth yn cynnwys argymhellion i:
09/07/2015 - 11:38
Mewn llythyr at John Whittingdale, yr Ysgrifennydd Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon, ynglŷn â thoriadau posibl i S4C mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y Llywodraeth yn 'anwybyddu' y Gymraeg ac yn 'camddeall' natur S4C. Daw y llythyr yn arwain at gyhoeddi Cyllideb y Llywodraeth, a fydd yn cynnwys toriadau posibl i S4C a'r BBC ac wedi i John Whittingdale awgrymu y byddai toriadau i S4C yn 'rhesymol' – rhywbeth mae ymgyrchwyr iaith a mudiadau yn y diwydiant darlledu wedi ei feirniadu.
08/07/2015 - 13:19
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio'r hyn sy'n cael ei weld fel sylwadau sarhaus gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Mark James mewn hysbyseb am swyddi newydd gyda'r Cyngor Sir.
06/07/2015 - 18:16
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder am oblygiadau'r Gyllideb i S4C yn dilyn adroddiadau y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 mlwydd oed.  Yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r sylwadau prynhawn yma yn achosi llawer o bryder. Dyw cyflwyno mwy o doriadau i S4C ddim yn opsiwn."
06/07/2015 - 10:50
Mae Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi cymeradwyo'r ffaith bod Cyngor Ceredigion wedi pleidleisio dros gadw amod i fynnu asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau penodol, gan alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i roi canllawiau cliriach.   Cyhoeddwyd deddf cynllunio newydd yn ddiweddar a sefydlodd y Gymraeg fel ystyriaeth statudol, ond nid yw'r Llywodraeth wedi cyhoeddi rheoliadau sy'n esbonio sut dylid gweithredu'r ddeddf newydd.
05/07/2015 - 11:08
Mae mudiad iaith wedi annog Cyngor Caerdydd i wreiddio’r Gymraeg yng nghanol y ddinas wrth lansio Siarter Caerdydd yn Ffair Tafwyl heddiw.
30/06/2015 - 18:32
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder yn dilyn datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw am newidiadau arfaethedig i gwricwlwm ysgolion a'r ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu.  
30/06/2015 - 12:17
Mae cyn Aelod Seneddol blaenllaw y blaid Lafur wedi cefnogi
29/06/2015 - 14:14
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am beidio cau ysgolion nes cynnal ymchwil ar effaith cau ysgolion ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf. Daeth cyfnod ymgynghori ar gau ysgol Llangynfelyn ger Aberystwyth i ben ddoe ac mewn ymateb ysgrifenedig dywed Cymdeithas yr Iaith:
27/06/2015 - 19:19
Mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos, galwodd Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin Mr Gareth Morgans ar Lywodraeth Cymru i ddileu "Cymraeg Ail Iaith" ac i weithredu argymhellion pwyllgor yr Athro Sioned Davies i ddysgu Cymraeg i bawb ar un continwwm. Gwnaed y galwad mewn cyfarfod a fynychwyd gan 60 o bobl "Tynged yr Iaith yn Sir Gâr" a drefnwyd gan y Gymdeithas i holi prif gynghorwyr a swyddogion am ddatblygiad addysg Gymraeg yn y sir. Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis