Archif Newyddion

16/09/2015 - 16:05
Eisiau Miliwn o Siaradwyr Cymraeg?  Eisiau lle canolog i'r iaith yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016? 
10/09/2015 - 14:01
Mae caredigion y Gymraeg wedi codi cwestiynau wrth i Gyngor Sir Penfro ymgynghori o'r newydd am ad-drefnu addysg Gymraeg yng Nghanol a Gogledd Orllewin y sir mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor heddiw. Fis Ionawr eleni derbyniodd y cyngor argymhelliad, yn dilyn ymgynghoriad, i agor ysgol uwchradd Gymraeg yn Hwlffordd. Derbyniodd y cyngor adroddiad yn argymell ymgynghori eto ar dri mater ar wahân: darpariaeth Gymraeg, darpariaeth yn Hwlffordd a darpariaeth yn ardal Tyddewi ac Abergwaun.
08/09/2015 - 16:52
Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion heddiw i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llangynfelyn yng Ngogledd Ceredigion, dywedodd Bethan Williams, swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n cymeradwyo dyfalbarhad holl rieni, plant a chymuned Llangynfelyn i gadw'r ysgol ar agor. Ar ôl symud i'r ardal mae nifer teuluoedd wedi dod yn weithgar iawn, yn rhan o'r gymuned a'r ysgol yw eu prif gysylltiad â'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
07/09/2015 - 16:00
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ail wasanaeth Cymraeg yn dilyn araith gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC heddiw sy'n sôn am ehangu cynnwys y gorfforaeth mewn nifer o ieithoedd y byd, ond ddim y Gymraeg. 
02/09/2015 - 22:33
Byddai cadw at addewid i agor dosbarth cychwynnol cyfrwng Cymraeg newydd yn Grangetown y mis hwn yn dystiolaeth bod Arweinydd Cyngor Caerdydd ‘o ddifrif am y Gymraeg’, yn ôl mudiad iaith.
01/09/2015 - 21:24
Mae mudiad iaith wedi ysgrifennu at Carwyn Jones a Chomisiynydd y Gymraeg i fynegi pryderon ynghylch y newidiadau yn y rhestr o sefydliadau yng Nghylch 3 y Safonau Iaith.  
25/08/2015 - 09:50
Mae Cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r Gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y brifddinas mewn llythyr at ymgyrchwyr iaith am ei bolisi cynllunio.
24/08/2015 - 10:40
Yn wyneb sïon cynyddol fod Cyngor Ceredigion yn trafod yn gyfrinachol gyda datblygwyr i ganiatáu nifer sylweddol o dai ar safle ysgolion Llandysul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i “agor y drysau caeedig” a chynnal cyfarfod cyhoeddus i gael barn pobl y dref am sut i ddatblygu'r safle i greu gwasanaethau a chyflogaeth i bobl leol yn hytrach na thai ar gyfer mewnfudwyr.