Archif Newyddion

21/01/2016 - 11:57
Wrth ymateb i adroddiad ar yr ymgynghoriad i ddyfodol Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth mae Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw'n synnu gyda'r canfyddiadau a bod angen eu gweithredu cyn gynted a phosibl.
08/01/2016 - 15:13
Wrth ymateb i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin i beidio blaenoriaethu Gwasanaethau Dysgu Caerfyrddin dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni'n deall bod llai o arian yn cael ei roi i'r cyngor ar gyfer gwasanaethau addysg oedolion ond mae'r cyngor wedi bod wrthi'n edrych ar y gyllideb yn ddiweddar ac yn bwriadu cwtogi ar wasanaethau eraill hefyd. Beth fydd yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - pwy fydd eisiau byw yma, a phwy fydd yn gallu byw yma?”
06/01/2016 - 16:14
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod rhaid dad-wneud y toriadau i gyllideb S4C wedi sylwadau Prif Weinidog Prydain yn y Senedd yn addo cadw at addewid maniffesto'r blaid i 'ddiogelu' ariannu'r darlledwr.    Mewn ymateb i gwestiwn gan Simon Hart AS, dywedodd David Cameron: "Mae S4C yn ... boblogaidd iawn ac mae pobl yng Nghymru yn ei hoffi'n fawr ac rwy' eisiau sicrhau ein bod ni'n cyflawni geiriad ac ysbryd ein haddewid maniffesto er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn sianel gref iawn." 
04/01/2016 - 15:25
Wrth i'r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddod i rym heddiw (4ydd o Ionawr) mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at newidiadau mwy sylweddol yn y drefn cynllunio. Bydd y newidiadau yn: sefydlu'r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol ym maes cynllunio am y tro cyntaf; sefydlu proses o asesu effaith iaith cynlluniau datblygu lleol, rhanbarthol ynghyd â'r fframwaith datblygu genedlaethol; a chreu pwrpas statudol i'r system gynllunio.
31/12/2015 - 10:27
Rydyn ni wedi galw ar Aelodau Cynulliad i wneud adduned blwyddyn newydd i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y Cynulliad wedi i'n hymchwil ddangos  bod defnydd o'r iaith yn y Siambr wedi gostwng yn 2015. 11.8% yn unig o'r cyfraniadau yn y Siambr gafodd eu gwneud yn Gymraeg yn 2015, o gymharu â 12.7% yn 2014.
28/12/2015 - 12:40
Mae Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Brifysgol Aberystwyth i ofyn am sicrwydd y bydd is-ganghellor nesaf y brifysgol yn medru’r Gymraeg.  Dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd yr is-ganghellor presennol, yr Athro April McMahon, y bydd hi’n ymddiswyddo fis Gorffennaf. Yn y llythyr, dywedodd Elfed Wyn Jones, cadeirydd y Gell,
15/12/2015 - 14:10
  Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio i wrthod cais i adeiladu dros dri chant o dai yn ardal Bangor.