Argyfwng allfudo, ond y Llywodraeth heb weithredu - lansiad 12 polisi economaidd

 

Cynghorau i sefydlu banciau lleol yn un o’r atebion mewn dogfen economaidd

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi dwsin o argymhellion i gryfhau’r economi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Hydref) mewn ymdrech i leihau’r allfudo o Gymru sy’n 'argyfwng i'r iaith’ yn ôl y Gymdeithas.

[Cliciwch yma i agor y ddogfen lawn]

Yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55% o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Amcangyfrifir bod Cymru yn colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru.

Er mwyn mynd i’r afael â’r her allfudo, argymhella Cymdeithas yr Iaith becyn o bolisïau economaidd, sef 12 cam tuag at ddatblygu iaith a gwaith ym mhob rhan o Gymru gan gynnwys:

  • Sefydlu Banciau Lleol gyda chymorth cynghorau a’u hasedau pensiwn

  • Codi Treth ar dwristiaeth i gynorthwyo ariannu mynediad cyflym i'r We i bob ardal o’r wlad

  • Sefydlu Menter Iaith a Gwaith Digidol newydd er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar-lein

  • Dileu ffioedd dysgu i’r rhai sy’n aros i astudio yng Nghymru

  • Datganoli cannoedd o swyddi allan o Gaerdydd

  • Sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol

  • Mynnu bod pob bargen ddinesig yn clustnodi cyfran o’i gyllideb i brosiectau penodol a fydd yn normaleiddio ac yn cael eu cynnal yn uniaith Gymraeg

  • Sefydlu Colegau Hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd a milfeddygon ym Mangor ac Aberystwyth

Wrth siarad cyn lansiad y ddogfen bolisi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw, dywedodd Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

“Mae lefelau allfudo o Gymru yn argyfwng i'r iaith a’r economi. Dyna un o'r prif heriau i'r Gymraeg o ran niferoedd y siaradwyr. Bydd yn anodd iawn cyrraedd targed y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg fel arall. Rydyn ni wedi clywed geiriau gwag gan Lywodraeth Cymru am y materion hyn dro ar ôl tro, ond does bron dim gweithredu wedi bod. Mae cymunedau ble mae’r Gymraeg yn brif cyfrwng cyfathrebu yn ysgyfaint i'r iaith, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Mae’n rhaid eu gwarchod a symud pob cymuned arall lan continwwm tuag at y ddelfryd honno. Allwn ni ddim fforddio colli’r cymunedau hollbwysig hyn. Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi cyfres o bolisïau newydd heddiw sy’n cynnig ffordd ymlaen.

Wrth sôn am y cynnig i gynghorau sefydlu rhwydwaith o fanciau lleol, ychwanegodd:

“Wrth i ni drafod gyda’n haelodau ac arbenigwyr, mae mynediad at gyllid yn un peth pwysig sydd wedi ei godi. Yn yr Almaen, mae tua 70% o fancio yn cael ei wneud gan tua 1,700 o fanciau lleol cydweithredol a’r banciau cynilo Sparkassen, sy’n gweithredu er budd y cyhoedd, sydd o fantais sylweddol i’r "Mittelstand" – sef busnesau bach a chanolig. Mae Sparkassen yn dal tua thraean o asedau banciau’r wlad gyda thua 40% o holl arian cwsmeriaid.

“Rydyn ni'n credu y byddai sefydlu banciau lleol yng Nghymru yn rhoi hwb i’r economi leol drwy sicrhau bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi’n lleol. Yn ogystal, byddai’n gwella mynediad at gyllid i fusnesau a phrosiectau lleol. Mae cyfle gan gynghorau i arwain ar y gwaith hwn drwy ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn, sy’n werth tua £15 biliwn, i gynorthwyo sefydlu banciau lleol, a fyddai’n llawer mwy gwydn a buddiol i’n heconomïau lleol. Dylai’r banciau lleol yma gael dyletswydd benodol i hybu gofodau a phrosiectau Cymraeg.”