Yn wyneb penderfyniad Llywodraeth Cymru i orfodi awdurdodau lleol i ail-gyflwyno ceisiadau am ysgolion newydd, mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar nifer o gynghorau i ail-ystyried eu cynlluniau i gau ysgolion pentrefol.Mae Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi cyhoeddi newidiadau i'w raglen Ysgolion y 21ain ganrif a olygir bod rhaid i gynghorau ariannu 50% o'r gost gyfalaf eu hunain. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nawr yn galw ar i Gyngor Gwynedd i ail-drafod dyfodol Ysgol y Parc ac i Gyngor Ceredigion ail-drafod dyfodol ysgolion cynradd ardal Llandysul.Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Pleidleisiodd Cynghorwyr Gwynedd a Cheredigion - trwy fwyafrifoedd bychain - dros gynlluniau ad-drefnu a fyddent yn cau'r ysgolion pentrefol Cymraeg hyn. Gwnaethpwyd hynny oherwydd fod swyddogion wedi'u hargyhoeddi fod angen gwneud hyn er mwyn sicrhau buddsoddiadau cyfalaf sylweddol gan Lywodraeth Cymru, ac nad oedd yn rhaid i'r Cyngor ond cael hyd i 30% o'r gost gyfalaf. Mae'r sefyllfa honno wedi newid yn llwyr erbyn hyn gan fod y Llywodraeth wedi peidio â derbyn dim o'r ceisiadau ac wedi gofyn i Awdurdodau Lleol sy'n barod i dalu bellach 50% o'r gost i ail-gyflwyno ceisiadau.""Dyma sefyllfa gwbl newydd felly. Nid dyma'r cynlluniau y pleidleisodd cynghorwyr Gwynedd a Cheredigion drostynt, a rhaid iddynt gael cyfle i ail-drafod yn y siambr llawn. Yn waeth fyth, mae si fod Swyddogion Addysg Gwynedd yn ceisio gwthio polisi newydd trwy Fwrdd y Cyngor - heb drafodaeth yn y Cyngor llawn - i'w galluogi i dalu o goffrau'r Cyngor ei hun 100% o gost ehangu Ysol Syr O.M.Edwards Llanuwchllyn fel eu bod yn gallu symud ymlaen yn syth i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Y Parc. Ni phleidleisiodd cynghorwyr dros gynllun o'r fath, a rhaid gorfodi swyddogion i ddod â'r mater yn ol at y Cyngor llawn am drafodaeth."