Am 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth. Bu y brotest ym Mangor yn dilyn cyfarfod hanesyddol gynhaliwyd ddydd Mercher diwethaf rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhodri Glyn Thomas y Gweinidog Treftadaeth. Yn y cyfarfod hwnnw trafodwyd pa egwyddorion ddylid ei gynnwys mewn Deddf iaith Newydd a'r amserlen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o'r fath.
Dywedodd Hywel Griffiths Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith oedd yn y cyfarfod:“Roedd hwn yn gyfarfod buddiol iawn ac fe gawsom gyfle i bwysleisio fod yn rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth newydd sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg, sicrhau fod hawliau ieithyddol penodol gan bobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg a derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg, a sefydlu Comisiynydd Iaith. Mae'r brotest ym Mangor heddiw yn pwysleisio hefyd na fydd unrhyw ddeddf iaith yn gyflawn os nad oes ganddi bwerau sy'n ymestyn i'r sector breifat. Mae cwmnïau fel Morrisons a Tesco yn enghreifftiau clasurol o'r math o gwmnïau preifat ddylai fod yn atebol i Ddeddf Iaith.“Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.Bu ail gyfarfod lle gwnaed addewid gan Morrisons y byddent mewn sefyllfa erbyn Hydref 2007 i ail-frandio un o'i siopau yng Nghymru fel siop brawf yn y ffyrdd mwyaf syml:* Arwyddion parhaol dwyieithog tu fewn a thu fas y siop* Cyhoeddiadau dwyieithog dros yr uchelseinydd* Hyfforddiant Cymraeg i'r staff ar gyfer defnydd yn y siop* Datblygu cynnyrch Cymru* Gwneud y rhan berthnasol o'r wefan yn ddwyieithogRoeddent hefyd wedi addo cysylltu gyda Cymdeithas yr Iaith a chyrff eraill a'r cyhoedd i fesur ymateb i'r siop brawf dwyieithog cyn estyn y polisi i'w siopau drwy Gymru fel rhan o'u hail-frandio. Cafwyd addewid y byddent erbyn yr Hydref yn ymateb i'r gofynion canlynol gan y Gymdeithas:* Y byddai'r holl daflenni a phosteri wythnosol i hyrwyddo Morrisons yn defnydio'r Gymraeg, ac* Y byddai'r labeli ar gynnyrch Morrisons yn ddwyieithog (yn dilyn y norm aml-ieithog ar gyfandir Ewrop) gan gychwyn gyda'u cynnyrch hunan-frand eu hunain (7,000 ohonynt, yn gyntaf y rhai wedi'u gwneud yng Nghymru gan fod angen cynhyrchu labeli arbennig ar eu cyfer)Pwysleisiodd y Gymdeithas mai gweithredu ar y 2 fater olaf hyn fyddai'n golygu defnydd o ddifri o'r Gymraeg yn eu busnes; mae'r argymhellion cyntaf - er yn bwysig - yn fwy symbolaidd. Dywed Hywel Griffiths eto:"Gan nad yw Morrisons wedi glynu at eu gair rhaid i ni gasglu eu bod wedi torri eu haddewid. Dyna pam yr ydym yn protestio ym Mangor eto.”