Cymdeithas yr Iaith yn targedu Abbey Caerfyrddin ac Aberystwyth

Ble mae'r Gymraeg?Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis trwy gydol y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Abbey a Banc y Co-operative yn ystod mis Medi ac Hydref cyn mynd ymlaen at gwmniau ffon Orange a Vodafone ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr.Tocenistiaeth yn unig yw darpariaeth cyfrwng Cymraeg banciau Abbey a Co-op, gyda'r ddarpariaeth bitw hwnnw'n aml yn israddol ac yn wallus. Yn dilyn danfon cwynion i'r 2 banc mae aelodau'r Gymdeithas wedi derbyn ymatebion oddi wrth y cwmnioedd gyda Abbey yn dweud eu bod yn bwriadu edrych i fewn i'r posibiliadau a Co-op yn dweud yn syml nad oes unrhwy gynlluniau ganddynt i ddarparu unrhyw wasanaethau Cymraeg pellach.Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Rydym yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmniau yma ynglyn â'u polisi iaith diffygiol.""Rydym yn galw ar y cwmniau yma i sicrhau bod y canlynol yn ddwyieithog: Arwyddion allanol a mewnol, taflenni hyrwyddol, gwefan a bancio ar-lein, Peiriannau twll yn y wal, cyfriflen dwyieithog i bawb yng Nghymru, eu bod yn cynnig gwasanaeth ffôn Cymraeg i gwsmeriaid ac eu bod yn sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Fe fyddwn yn dosbarthu taflenni tu fas i Abbey yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth bore Sadwrn gan ofyn i'w cwsmeriaid i lythyru'r cwmni er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog. Rydym wedi derbyn ymateb oddi wrth Abbey yn dweud eu bod yn edrych i fewn i'r posibiliadau o ddarparu fwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae'n holl bwysig ein bod yn parhau i bwyso ar y cwmni i ddangos iddynt difrifoldeb y sefyllfa. Yn dilyn ein trafodaethau gyda amryw o gwmniau preifat ac yn dilyn derbyn ymateb banc y Co-operative yn dweud nad oes bwriad ganndynt ddarparu unrhyw wasanaethau Cymraeg pellach mae'n amlwg os na cheir Deddf i orfodi'r sector breifat i roi statws cyfartal i'r Gymraeg - gwasanaeth tocenistaidd Cymraeg yn unig y gallwn ddisgwyl. Galwn felly ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."