Cyn-Gadeiryddion Cyngor Sir yn galw am weithredu dros y Gymraeg

Cyn cyfarfod agored i drafod y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin mae nifer o gyn-Gadeiryddion Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi galw ar yr awdurdod i weithredu er budd y Gymraeg .

Mewn datganiad cyhoeddus mae'r Cyn-Gadeiryddion Fioled Jones, Roy Llewelyn, Siân Thomas a Terry Davies wedi dweud ei bod yn bryd i'r cyngor sir arwain a newid iaith gwaith bob dydd y cyngor i'r Gymraeg.

Maent wedi dweud:

"Rydyn ni fel rhai o gyn-gadeiryddion Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar aelodau a swyddogion y Cyngor i symud yn awr i gyflawni rhagor o'u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg".

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith

Rydym wedi'n calonogi gyda chefnogaeth cyn-Gadeiryddion sydd â chymaint o barch iddyn. Fel cyn-Gadeiryddion sydd wedi siarad mewn ac arwain cyfarfodydd y Cyngor yn Gymraeg maen nhw'n cytuno gyda ni ei bod yn bryd nawr i'r Cyngor ei hun ddangos esiampl drwy weithio yn Gymraeg, yn hytrach na dim ond gofyn i eraill wneud.

Rydym yn gobeithio cael ymateb da a chadarnhaol gan y Cyngor yn ein cyfarfod agored ar y 30ain o Ionawr yn llyfrgell Caerfyrddin, ble bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd holi cwestiynau."

Bydd y Cyng. Mair Stephens, Cadeirydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg; Cyng. Cefin Campbell, Is-Gadeirydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg, Cyng. Calum Higgins, aelod o Banel Ymgynghorol y Gymraeg a'r Cyng. Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor yn y cyfarfod i ateb cwestiynau a Heledd Cynwal yn ei agor.

Manylion Cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr: http://cymdeithas.cymru/digwyddiadau/TyngedyrIaithSirG%C3%A2r

Y stori yn y wasg:

Angen i Gyngor Sir Gâr 'newid ei iaith gwaith i'r Gymraeg' - Golwg360

Galw ar awdurdod i weithredu er budd y Gymraeg - BBC Cymru Fyw