Cynghorau: Dyw'r Gymraeg ddim yn rhan o 'wead cymdeithasol' ein siroedd

 

Mae Casnewydd a Blaenau Gwent wedi dilyn Cyngor Caerdydd yn dadlau nad yw'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol eu siroedd, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw.  

Mewn ymateb i arolwg y mudiad iaith am sut y byddan nhw'n ymateb i ddeddfwriaeth cynllunio newydd, dywedodd Cyngor Casnewydd, wrth adrodd ystadegau anghywir am nifer siaradwyr y Gymraeg yn y sir: "... nad yw'r Gymraeg yn rhan arwyddocaol o'r sylfaen cymdeithasol yng Nghasnewydd." Ac meddai Cyngor Blaenau Gwent: "... daeth y cyngor i'r casgliad nad oedd y Gymraeg yn fater o bwys yn y fwrdeistref." Daeth Cyngor Caerdydd o dan y lach yn gynharach eleni am ddod i'r un casgliad. 

Yn ôl yr ymatebion gan un deg naw o gynghorau sir, dim ond tri ohonyn nhw sy'n awgrymu'n glir y byddan nhw'n adolygu eu polisïau oherwydd newidiadau i statws y GymraegDaeth y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol yn y system gynllunio am y tro cyntaf oherwydd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.  

Mewn llythyr at Weinidog Cynllunio Llywodraeth Cymru Carl Sargeant AC, meddai Tamsin Davies, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'n sarhad i'r Gymraeg bod tri chyngor wedi dod i'r casgliad nad yw'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol eu hardaloedd nhw. Mae'r casgliad hwn yn amlygu problem sylfaenol gyda'r canllawiau, sef nad ydynt yn galluogi i awdurdodau ystyried sut i ddefnyddio'r gyfundrefn cynllunio er mwyn symud at neu ddiogelu sefyllfa lle mae'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol yr ardal dan sylw." 

Daw'r newyddion wedi i swyddogion Llywodraeth Cymru gadarnhau wrth Gymdeithas yr Iaith na fydd ymgynghoriad llawn ar y canllawiau cynllunio Cymraeg a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd er mwyn cynorthwyo cynghorau i weithredu'r newidiadau yn y gyfraith. Yn ôl y swyddog, bydd newidiadau ffeithiol i Nodyn Cyngor Technegol 20 yn unig yn hytrach ail-ystyriaeth lawn. Mae'r canllawiau presennol yn dweud na ddylid cynnal asesiad effaith iaith ar ddatblygiadau unigol a dim ond ystyried y Gymraeg 'lle bo'n rhan arwyddocaol o wead cymdeithasol y gymuned'. 

Ychwanega Tamsin Davies yn ei llythyr at y Llywodraeth: 

"Credwn ei fod yn glir, yn sgil y Ddeddf Cynllunio a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, bod [y canllawiau] yn dod at gwestiwn o'r cyfeiriad anghywir. Ni ddylid gofyn cwestiynau tebyg i "ydy'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol yr ardal ar hyn o bryd?", ond, yn hytrach, cwestiwn ar hyd y llinellau: "pa gamau y gallai awdurdod cynllunio eu cymryd drwy'r system gynllunio er mwyn cyfrannu at sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn fwyfwy, neu'n parhau i fod, yn rhan  o wead cymdeithasol yr ardal?". Hynny ydy, dylai'r canllawiau pwysleisio sut y gallai'r system gyfrannu at gryfhau defnydd y Gymraeg yn yr ardal dros y blynyddoedd a degawdau i ddod er lles y genhedlaeth nesaf, yn hytrach nag edrych yn amddiffynnol ar y sefyllfa bresennol yn unig. 

"... credwn fod rhaid ail-ystyried NCT 20, a hynny yn ei gyfanrwydd, yn sgil dyfodiad y ddeddfwriaeth newydd. Rydym eisoes wedi clywed bod cynghorau sydd yn mynd i ddilyn trywydd gwbl wahanol i'w gilydd yn dilyn y newid i'r gyfraith, gyda rhan fwyaf dim ond yn mynd i wneud newidiadau os yw'r canllawiau cenedlaethol yn newid yn sylweddol. Rydym yn pryderu y bydd aneglurder difrifol am oblygiadau pellgyrhaeddol y ddeddfwriaeth yn gyffredinol y gallai arwain at barhad a'r sefyllfa bresennol neu ddatblygiadau'n ddibynnol ar heriau cyfreithiol ad hoc 

"Gofynnwn i chi felly, yn hytrach nag ymgynghori ar y rhannau newydd o NCT 20 yn unig, i ymgynghori ar y canllawiau yn eu cyfanrwydd er mwyn sicrhau cyflawni’r hyn rydym i gyd eisiau ei gweld, sef cyfundrefn cynllunio sy'n arwain at ffyniant y Gymraeg yn ein cymunedau, a hynny ym mhob rhan o'r wlad" 

Cliciwch yma i weld yr ymchwil