Daeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.
Ymhellach, pwysleisiwyd bod cyflwyno Deddf Eiddo i Gymru – mesur a fyddai’n sicrhau tai i Gymry ifanc yn eu cymunedau lleol – yn gam cyntaf hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn.Roedd Richard Parry Hughes – arweinydd Cyngor Gwynedd – ymhlith y bobl hynny a bu'n siarad yn y rali.Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiadMeddai Huw Lewis, Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo:"Mae ein cymunedau Cymraeg bellach o dan bwysau enfawr. Dros y blynyddoedd nesaf, gall cymunedau ledled Cymru golli llawer o’u hadnoddau pwysicaf – eu siopau lleol, eu hysgolion lleol ac wrth gwrs eu tai – gan adael y cymunedau hynny mewn sefyllfa cwbwl anghynaladwy. Heb weithredu cynhwysfawr yn y maes hwn, ni fydd modd sicrhau dyfodol i’n cymunedau Cymraeg.""Un o nodweddion amlycaf yr argyfwng sydd yn wynebu ein cymunedau yw methiant parhaol pobl leol i gael mynediad i’r farchnad dai. Nid yw hon yn broblem sy’n debygol o ddiflanu. ac felly mae angen i Lywodraeth y Cynulliad roiystyriaeth ddifrifol i’r angen i gyflwyno Deddf Eiddo i Gymru."Roedd y rali yn benllanw ar rai misoedd o weithgarwch. Dros yr haf, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn casglu enwau ar ddeiseb genedlaethol sy’n galw am Ddeddf Eiddo i Gymru ac fe fydd y gwaith o gasglu enwau ar y ddeiseb bwysig hon yn dod i ben dydd Sadwrn.Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad Dydd Mercher (Tachwedd 2). Bydd hyn yn digwydd ar yr un diwrnod ag y cynhelir trafodaeth ar ‘dai fforddadwy’ ym mhrif siambr y Cynulliad.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesMae recordiad byw o'r Rali ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.Mae'n dechrau gyda'r siaradwyr (Huw Lewis, Richard Parry Hughes, Angharad Tomos), ac wedyn rhai o ganeuon gan Mim Twm Llai yn chwarae'n fyw ar y Maes, gan gynnwys un cân newydd sbon sydd heb ei pherfformio o'r blaen!Pwyswch yma i wrando (mp3 - 40MB)