Dim profion gyrru Cymraeg yn y Bala - 'hurt a sarhaus'

'Hurt a sarhaus' dyna sut mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio penderfyniad yr asiantaeth gyrru i ddod â phrofion gyrru yn Gymraeg yn y Bala i ben.  

Mewn llythyr at Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, mae'r mudiad iaith wedi galw i'r gwasanaeth profion gyrru Cymraeg gael ei adfer, wedi iddynt ddarganfod bod pobl a drefnodd prawf Cymraeg wedi mynd i sefyll eu prawf a chael gwybod y byddai'n cael ei gynnal yn uniaith Saesneg. Mae'r mudiad hefyd wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg a gwleidyddion lleol am y mater. Yn y llythyr, meddai Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Credwn ei fod yn fater o hawl i bob un yng Nghymru i dderbyn profion gyrru yn Gymraeg, mae hynny'n arbennig o wir yn y Bala, ardal lle mae dros saithdeg y cant o bobl yn siarad Cymraeg. Nid yw'n bosib i chi ddarparu gwasanaeth sy'n cyrraedd anghenion pobl ardal y Bala yn iawn os nad ydych yn darparu'r gwasanaeth hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg.  

"Fel y gwyddoch, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac mae'ch methiant i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn yr ardal yn hurt, sarhaus ac yn tramgwyddo ar hawliau iaith sylfaenol pobl yr ardal. Os nad ydych yn adfer y gwasanaeth Cymraeg yn syth, byddwn ni'n cysylltu'n bellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi ddefnyddio'r camau gorfodi sydd ganddi i sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda'ch dyletswyddau moesol a statudol. Edrychwn ymlaen at glywed eich bod yn ailsefydlu profion gyrru Cymraeg yn ddiymdroi."  

[Cliciwch yma i ddarllen y llythyr llawn]