Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn. Ein gobaith ni yw y bydd y syniadau sy'n deillio o'r cyfarfod heddiw, nid yn unig yn berthnasol i Benllyn ond yn rhai y gall pobl sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg ar hyd a lled Cymru eu defnyddio. Mae'n rhaid i bawb sy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau fynnu'r p?er i ddiogelu'r dyfodol hwnnw. Gwelwn y cyfarfod hwn fel man cychwyn i weithgarwch fydd yn ymestyn drwy Gymru gyfan."
Y siaradwyr yn y cyfarfod oedd Dr Carl Clowes, sefydlodd Antur Llanaelhaearn yn y 70au a Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe wnaeth y Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards ymateb ar ran Cyngor Sir Gwynedd. Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd yn cadeirio'r cyfarfod. Yn bresennol hefyd roedd nifer o Gynghorwyr Sir, Cynghorwyr Cymuned a gwleidyddion eraill. Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn y cyfarfod hwn roeddwn yn edrych am ffyrdd o rymuso a sbarduno ein cymunedau lleol fel eu bod yn eu hadfywio eu hunain a hynny oddi mewn i ganllawiau y Cynlluniau Datblygu Lleol."Pwyswch ar y llun isod i weld mwy o luniau o'r Cyfarfod (Lluniau gan Bryn Salisbury)