Dyfodol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth - Pryderon Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Brifysgol Aberystwyth i beidio â dileu tair swydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mewn llythyr at yr Is-Ganghellor Elizabeth Treasure mae'r Gymdeithas yn nodi y byddai colli'r swyddi hyn yn groes i ddyletswyddau cendlaethol a rhyngwladol y Brifysgol.
 
Yn y llythyr mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, yn amlinellu goblygiadau'r fath doriadau ac yn gofyn i'r Is-Ganghellor ystyried pwysigrwydd yr Adran yng Nghymru ac ar lefel ryngwladol.
 
Dywedir yn y llythyr,
 
"Mae sefydliadau megis Adran y Gymraeg Aberystwyth yn hollbwysig o ran statws y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill yn llygaid darpar fyfyrwyr, ysgolion a rhieni. Yn ogystal â hyn, mae ar Brifysgol Aberystwyth y ddyletswydd i hyrwyddo'r Gymraeg ac addysg sy'n benodol i Gymru a byddai'r toriadau arfaethedig yn gwbl groes i'r genhadaeth hon a gynhwysir yn Siarter y Brifysgol.
 
Mae'r bwriad hwn yn peryglu dyfodol astudiaethau Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Credwn y dylai pynciau fel y rhain gael eu diogelu yn ddiamod a bod y fath doriadau yn bygwth dyfodol sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol.
 
"Mae swydd darlithydd y Wyddeleg yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Iwerddon ac felly byddai dileu'r swydd hon yn amharchu'r ymrwymiad rhyngwladol hwn ac yn debygol o ddwyn anfri ar y Brifysgol ac ar Gymru."
 
Yn y llythyr mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod fod heriau ariannol, ond bod torri swyddi yn ymateb parod fydd yn caniatau torri mwy o swyddi'r adran:
"Gofidiwn fod y bwriad i dorri'r swyddi hyn yn rhan o dueddiad hir-dymor yn strategaeth Prifysgol Aberystwyth sy'n golygu fod y Brifysgol yn cefnu ar ei dyletswyddau i bobl Cymru a'i threftadaeth Gymraeg.
 
"Os yw'r Is-Ganhellor am fod yn wir i'w gair fod 'Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth' a'i bod 'yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau,' ni all hi drin Adran y Gymraeg fel unrhyw adran arall, er gwaetha'r heriau ariannol.
 
 
Y Stori yn y wasg:

Galw am ddiogelu swyddi astudiaethau Celtaidd Aberystwyth - BBC Cymru Fyw 6/7/17