Galw am sefydlu adran Gymraeg i'r Llywodraeth y tu allan i Gaerdydd

Mae angen symud cannoedd o swyddi allan o’r brifddinas, meddai’r Gymdeithas

Dylid sefydlu adran newydd o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am y Gymraeg fel rhan o gynllun ehangach i symud cannoedd o swyddi i ardaloedd y tu allan i'r brifddinas, yn ôl ymgyrchwyr.

Ar hyn o bryd, mae Is-Adran y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd nad oes ganddi statws adran lawn. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod statws israddol y Gymraeg o fewn y gwasanaeth sifil yn golygu nad yw’r iaith yn cael digon o ystyriaeth polisi.  Ymysg yr argymhellion yn y papur polisi a gaiff ei drafod ym Mlaenau Ffestiniog ymhen pythefnos, bydd galwad i ddatganoli cannoedd o swyddi drwy sefydlu ac adleoli’r cyrff canlynol:    

        Adran Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru
        Awdurdod Darlledu Cymru
        Arolygiaeth Cynllunio Cymru
        Corff Datblygu Economaidd
        Cwmni Ynni Cenedlaethol

Yn ogystal, bydd y mudiad yn galw am ddatganoli rhagor o swyddi yn yr adrannau amaeth, addysg ac economi.  

Yn siarad o Aberystwyth, meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:     

“Mae datganoli swyddi allan o Gaerdydd yn bwysig o ran sicrhau bod gennym economi ac iaith gynaliadwy a ffyniannus ledled y wlad. Dyw’r cydbwysedd ddim yn iawn ar hyn o bryd. Hefyd, ac wrth siarad gyda nifer o grwpiau eraill, mae’n glir nad oes digon o ddylanwad gan Is-Adran y Gymraeg bresennol y Llywodraeth. Mae beirniadaeth hefyd bod yr uned yn rhy Gaerdydd-ganolog ei meddylfryd, sy’n gallu, ac wedi, bod yn broblem o ran llunio’r polisïau gorau i'r iaith. Felly mae dadl gref dros y newid yma.”  

Ychwanegodd:

“Rydyn ni'n colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru. Mae’r ffigyrau yn dangos bod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar gyflwr yr iaith. Un o’r prif heriau yw allfudo — gan gynnwys yn arbennig pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith.

“Yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae yna 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55 y cant o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Yng Ngheredigion, fe wnaeth 3,670 o bobl ifanc adael y sir mewn un flwyddyn yn unig, rhwng 2015 a 2016 - mae hynny’n cyfateb i bron i 20 y cant o'r holl boblogaeth ifanc rhwng 15 a 29 oed yn gadael sir Ceredigion.

“Dyna un o’r prif resymau pam mae’n rhaid canolbwyntio ar bolisïau fyddai’n creu gwaith mewn cymunedau Cymraeg ac ymgyrchu dros bolisïau economaidd a fydd yn cryfhau sefyllfa’r iaith.”

Bydd y galwadau am adleoli swyddi yn ffurfio rhan o gyfres o alwadau polisi mewn dogfen ‘Gwaith i Adfywio Iaith’ a gaiff ei chyhoeddi yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog ar 13eg Hydref.