Rhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa, ac mae Cymdeithas yr Iaith eisiau tynnu sylw at y ffaith nad yw'r busnesau y mae pawb yn eu defnyddio o ddydd i ddydd wedi'u cynnwys.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Dydy rhan helaeth y sector breifat ddim yn cael ei gynnwys yn y Gorchymyn iaith a felly mae'r Gorchymyn yn rhwystro rhag cael hawliau iaith yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen ymhelaethu arno fel bod pwerau llawn dros y Gymraeg yn symud i Gaerdydd."
Codwyd sticeri ar siopau ym Mangor, Aberteifi a Chaerdydd a oedd yn datgan fod y Llywodraeth yn rhwystro'r ffordd i'r Gymraeg yn y siopau hynny.Ychwanegodd Bethan Williams:"Dadl y Llywodraeth yw bod ewyllys da'r busnesau hyn yn ddigon ond dydy'r busnesau rydyn ni wedi'u targedu ddim yn cynnig gwasanaeth Cymraeg o'u gwirfodd. Mae'n hollol amlwg i ni felly fod angen deddfu ym maes y Gymraeg a chreu sefyllfa cadarnhaol I'r iaith yn lle y rhwystrau parhaol mewn cwmnioedd sy'n anwybyddu eu cwsmeriaid Cymraeg."Mae hyn yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gryfhau'r Gorchymyn ac ehangu ei gynnwys. Dywed y Gymdeithas fod mwy o weithredu i ddod.