Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch swyddogion Cyngor Conwy am eu parodrwydd i gymryd sylw o lais y bobl ac am eu penderfyniad i gryfhau ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir. Mewn llythyr at y Gymdeithas, dywed Pennaeth Addysg Conwy (Geraint James) y bydd yn:"addasu'r strategaeth i ddangos safbwynt a theimladau cryf y cymunedau i gadw a chryfhau ysgolion pentrefol ein cymunedau gwledig a Chymreig".Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn dadl y Gymdeithas y dylid datblygu'r ysgolion hyn yn adnoddau cymunedol ehangach, a dywed y llythyr y bydd Adran Datblygu Cymunedau'r Cyngor yn rhan o'r rhaglen o ddatblygu'r ysgolion. Disgwylir y bydd y strategaeth ddiwygiedig i gryfhau'r ysgolion pentrefol trwy ystod o opsiynau'n cael ei chyflwyno i'r Cyngor yn niwedd Hydref.Ymatebodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Dyma newyddion gwych i gymunedau gwledig fel Llangwm, Ysbyty Ifan, Penmachno, Pentrefoelas, Capel Garmon, Ro-wen ac eraill. Os bydd y cymunedau hyn yn parhau i gefnogi'u hysgolion, credaf y byddant yn derbyn pob cefnogaeth bosibl gan swyddogion goleuedig yn sir Conwy.""Mae'n amlwg fod y cymunedau wedi bod yn ddrwgdybus iawn o'r broses ymgynghorol ddiweddar gan amau'n ddigon naturiol mai mynd trwy'r camau yr oedd y Cyngor er mwyn hybu agenda o gau ysgolion. Ond ymddengys fod gyda ni am unwaith Gyngor sy'n barod i wrando ar lais y bobl ac yn barod i weithio gyda nhw yn hytrach na gorfodi'i agenda ei hunan. Mae hyn yn gwbl wahanol i'r hyn a wna Cyngor Gwynedd yr ochr arall i'r ffin sirol wrth iddynt geisio gorfodi polisi o gau Ysgol y Parc - polisi a wrthwynebir gan holl ysgolion a chymunedau'r cylch.""Calondid mawr yw fod Cyngor Conwy'n barod i weithredu ar syniadau arloesol fel datblygu'r ysgolion yn adnoddau i adfywio'n cymunedau pentrefol Cymraeg. Gall fod yma wers i Gymru gyfan."