Llwyddiant Addysgol Ysgolion Bach

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.

Dywedodd yr adroddiad:"Mae partneriaeth yr ysgol gyda rhieni a'r gymuned yn nodweddion rhagorol o'r ddarpariaeth...... Mae hon yn ysgol sydd yn wirioneddol galon ei chymuned."Wrth dynnu sylw Jane Hutt AC at yr adroddiad dywedodd Aled Davies o Gymdeithas yr Iaith:"Dyma adroddiad sy'n dangos mor bwysig yn addysgol yw cefnogaeth cymuned a rhieni i ysgol bentrefol. Dylid cydnabod llwyddiant addysgol ein hysgolion pentrefol a cheisio dysgu gwersi oddi wrthynt, yn hytrach na bygwth cau ysgolion o'r fath. Mae hefyd yn arwyddocaol fod yr Arolygydd a gyfansoddodd yr adroddiad ar Ysgol Dihewyd yn Gyn-Ddirprwy Addysg yn Sir Gaerfyrddin. Ers hynny mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cychwyn ymgyrch o ymosod ar ysgolion bach o'r fath."Manylion ychwanegol:*Copi o'r adroddiad -http://dyffrynaeron.com/ffeiliaupdf/estyndihewyd.pdf* Mewn cyfweliad gyda'r Cambrian News dywed Martin Cray yr Arolygydd agyfansoddodd yr adroddiad:" Rwyf wedi arolygu dros 200 o ysgolion mewn 19 sir ar draws Cymru, acfe fuaswn yn gosod Ysgol Dihewyd yn y 10% uchaf."* Am fwy o fanylion ffoniwch Angharad Clwyd ar 01559 384378