Mae Cymdeithas yr Iaith yn datgelu heddiw gynlluniau Cyngor Sir Gaerfyrddin i gyhoeddi ei rhestr du cyntaf o ysgolion pentre i’w cau yn ystod Mehefin. Disgwylid y cyhoeddiad ar ddechrau'r flwyddyn, ond y mae wedi cael ei ddal yn ôl tan yn awr.
Yr esboniad caredicaf am yr oediad yw rhoi cyfle i’r Cyfarwyddwr Addysg newydd gychwyn ar ei waith. Esboniad arall oedd awydd i osgoi anhawster i Lafur Newydd (rhan o’r Glymblaid lywodraethol yn y Cyngor Sir) o flaen yr Etholiad.Wrth gyfeirio at y datblygiad hwn, y mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn cyhoeddi heddiw dystiolaeth na bu unrhyw ystyriaeth o effaith y rhaglen gau ysgolion pentrefol Cymraeg ar yr iaith. Mewn dogfen yn dwyn y deitl eironig Moderneiddio Iaith Sir Gaerfyrddin, mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi ymchwil (seiliedig ar ystadegau’r Cyngor ei hun) sydd yn dangos y gallai gweithredu’r Strategaeth moderneiddio ddistrywio dros nos, ac heb drafodaeth, holl bolisi iaith ysgolion cynradd y sir.Mae’r ddogfen yn dangos· y gallai hanner holl ysgolion cynradd Cymraeg categori 'A' y sir gael eu cau.· Y byddai dros fil (1017 a bod yn fanwl) o ddisgyblion unigol mewn perygl o golli eu haddysg naturiol gyfrwng Cymraeg.· Y byddai cymunedau Cymraeg o blant yn cael eu distrywio a’u gwasgaru.· Y byddai problemau dybryd o ganlyniad o ran cymhathu plant mewnfudwyr i gymunedau Cymraeg.· Y byddai terfyn ymarferol yn syth o bolisi iaith ysgolion cynradd y sir – sy’n seiliedig ar hyn o bryd ar addysgu'r holl blant mewn cymunedau pentrefol Cymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’i gilydd. Yn lle hynny, byddai llawer o rieni’n gorfod gwneud dewis ymwybodol i gael addysg Gymraeg.· Byddai’r newid mawr hwn yn digwydd heb unrhyw drafodaeth nac ymgynghori ar lefel sirol – ac yn groes i ganllawiau'r Cynulliad ar gau ysgolion sy’n mynnu fod ystyried effaith cau ar yr iaith.Sylw Aled Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith oedd:"Gallem golli holl enillion yr 20 mlynedd diwethaf o ran addysg gynradd Gymraeg yn y sir, a hynny heb drafodaeth ac yn groes i ganllawiau’r Cynulliad. Dyma gwestiwn arall i ni ei roi i Jane Davidson yn ein cyfarfod arfaethedig ar y 30ain o Fai yn Eisteddfod yr Urdd."Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r ddogfen mewn PDF. (Saesneg)Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC South West WalesStori oddi ar wefan icwales.co.uk (Western Mail)Stori oddi ar wefan thisissouthwales.co.uk (Carmarthen Journal)Stori oddi ar wefan GolwgStori oddi ar wefan y Cambrian News