Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar faterion cyfryngau torfol, Dyfrig Jones:
Wrth wahodd cwmnïau i gystadlu am drwydded newydd, gwnaeth Ofcom hi'n ofynnol eu bod yn darparu lleiafswm o 10 awr y dydd o raglenni "lleol". Ond ni wnaed darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn amod o'r drwydded, er gwaetha'r ffaith y bydd yr orsaf newydd yn gwasanaethu ardaloedd gyda'r crynhoad mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Diffyg gweledigaeth Ofcom sydd wedi arwain at sefyllfa lle gall cwmni fel Real Radio haeru mai'r "gwasanaeth gorau posibl" i Ogledd a Chanolbarth Cymru yw un uniaith Saesneg.
Dyma ddyfyniadau allan o gais Real Radio am y drwydded:
We have given careful thought to this issue and, on balance, have agreed that for Real Radio to offer the best possible service to the greatest number of adults across North and Mid Wales we should offer an English-only station.
Gwaith Ofcom yw gwarchod buddiannau y rhai ohonom ni sydd yn defnyddio y cyfryngau darlledu. Ond mae'n amlwg eu bod yn rhoi buddiannau y cwmnïau darlledu uwchlaw anghenion y gynulleidfa Gymraeg a Chymreig. Y mae Cymdeithas yr Iaith yn galw, unwaith eto, ar Rhodri Williams - Llysgennad Ofcom yng Nghymru, a chyn-gadeirydd y Gymdeithas - i bwyso ar ei feistri yn Llundain i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i'r gynulleidfa Gymraeg wrth gynllunio dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.Nid yw iaith yn ffactor o gwbl mewn unrhyw ran o Gymru pan fydd Ofcom yn dyfarnu pwy sy'n cael trwydded. Yr unig beth gall Ofcom wneud ydy ceryddu cwmni am dorri addewid. Hynny yw gan nad yw Real Radio wedi addo unrhyw ddarpariaeth Gymraeg o gwbwl i gychwyn (a dydyn nhw heb) yna ni all Ofcom wneud unrhyw beth i unioni'r anghyfiawnder. Mae'r setliad hurt yma yn dangos bod angen datganoli holl bwerau dros ddarlledu i Gaerdydd ac bod angen hefyd i'r Llywodraeth yng Nghaerdydd sefydlu corff annibynnol Cymreig tebyg i Ofcom. Mae angen sefydlu rheoliadau newydd hefyd sy'n datgan yn glir bod angen i unrhyw orsaf radio masnachol adlewyrchu natur ieithyddol yr ardal y mae'n darlledu ynddi.