Heddiw ym Mhorthmadog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â chynigion dogfen bolisi Deddf Eiddo’r mudiad. Dros y misoedd diwethaf, bu Grŵp Polisi Cymdeithas yr Iaith yn adolygu cynnwys y ddogfen gynhwysfawr hon – a argraffwyd gyntaf ym 1992 a’i ddiwygio ym 1999 – gan roi sylw i ddatblygiadau diweddar ym maes tai a chynllunio ar draws Prydain.
Mae’r ddogfen yn ymdrin a phob agwedd o’r argyfwng tai, gan geisio cynnig atebion i broblemau megis prisiau afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau tai niweidiol.Caiff y ddogfen ei lansio mewn Cynhadledd i’r Wasg a gynhelir am 10 y bore yn 'Y Ganolfan' ym Mhorthmadog. Lleolir y 'Ganolfan' drws nesaf i’r Milk Bar ar brif stryd y dref.Medai Huw Lewis ar ran Grŵp Deddf Eiddo’r Gymdeithas:"Ers i’r ddogfen Deddf Eiddo gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf, gwelwyd nifer o gynlluniau a pholisïau gwahanol yn cael eu cyflwyno gyda’r nod o geisio ymateb i’r her o gynnig tai fforddiadwy i drigolion lleol. Hyderwn fod ymgyrchu’r Gymdeithas yn y maes wedi cyfrannu at symudiadau o’r fath. Ond, gwendid mawr yr holl gynlluniau hyn yw nad oes yr un ohonynt wedi cynnig unrhyw fesur o reolaeth dros y farchnad dai, ynghyd ag effeithiau niweidiol y farchnad honno ar gymunedau lleol a’r iaith Gymraeg.""Nôd Deddf Eiddo yw i estyn elfen o reolaeth dros y farchnad dai, er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru am dai, a thrwy hynny, cyfrannu at sicrhau cynaladwyedd cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg.""Ni ellir dianc rhag effeithiau’r farchnad dai. O ganlyniad, os ydym o ddifri ynglŷn â chynnig atebion i’r argyfwng tai sy’n wynebu ein cymunedau, mae’n rhaid sicrhau trafodaeth gall a chytbwys ar briodoldeb estyn elfen o reolaeth dros y farchnad honno. Trwy lansio’r cyfnod hwn o ymgynghori ar gynnwys Deddf Eiddo, ein gobaith yw i hybu trafodaeth o'r fath."Pwysa yma i ddarllen 'Y Llawlyfr Deddf Eiddo: Drafft Ymgynghorol Mai 2005'Bydd y cyfnod o ymgynghori ar gynnwys y ddogfen Deddf Eiddo yn para hyd diwedd Gorffennaf 2005.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan icnorthwales.co.uk (Daily Post)Stori oddi ar wefan icnorthwales.co.uk (North Wales Weekly Newspapers)