Rhy hwyr i Benllech - ond nid i ardaloedd eraill

Wedi i bobl Ynys Môn gael eu hatal rhag prynu tai newydd ar yr ynys fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal piced i fynnu Deddf Eiddo fel nad oes rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.

Mae ystâd o 16 o dai ym Mrynteg, ger Benllech, yn cael eu hadeiladu, ag amod cynllunio arnynt sy'n golygu bod yn rhaid eu gwerthu fel cartrefi gwyliau, nid fel prif gartref.

Mae 6.11% o dai yr ynys eisoes yn ail dai, ac mae 62.2% o bobl yr ynys wedi eu prisio o'r farchnad dai.

Dywedodd Oswyn Williams sy’n byw yn Benllech:
"Mae'r cyngor yn dweud nad oes unrhyw beth y gallan nhw ei wneud yn yr achos yma gan fod y cais cynllunio wedi ei gymeradwyo yn 2008, ond pam fod y cais wedi ei gymeradwyo o gwbl? Dydy'r broblem tai ddim yn rhywbeth newydd. Mae wedi gwaethygu a dod i amlygrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae pobl wedi methu prynu tai yn eu hardal leol ers degawdau."

Ychwanegodd Osian Jones:
"Mae Benllech yn enghraifft arall o'r angen am Deddf Eiddo fydd yn sicrhau'r hawl i gartref yn lleol, yn cynllunio ar gyfer anghenion lleol ac sicrhau bod tai yn fforddiadwy i'w prynu a'u cynnal.
“Hyd yn oed os ydy hi'n rhy hwyr i wneud rhywbeth am y tai yma yn Bellech dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud yn siŵr fod pobl ifanc sydd yn meddwl ble i fyw neu chwilio am gartref yn gallu aros yn eu cymuned leol. Ond mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar frys a rhoi Deddf Eiddo mewn lle."

Mae cymdeithas yr iaith yn galw am ddeddf eiddo fydd yn:

1) Sicrhau yr hawl i gartre'n lleol
2) Cynllunio ar gyfer anghenion lleol
3) Grymuso cymunedau
4) Blaenoriaethu pobl leol
5) Rheoli sector rhentu
6) Darparu cartrefi cynaliadwy
7) Buddsoddi mewn cymunedau