"Ry'n ni eisiau byw yn Gymraeg ar ôl ysgol" - neges i Carwyn Jones

Mae pobl ifanc wedi herio’r Prif Weinidog Carwyn Jones i sefydlu hawliau iddynt
ddefnyddio Cymraeg tu allan i gatiau'r ysgol mewn protest ar faes Eisteddfod yr
Urdd heddiw.

Yn ei ymateb swyddogol i ystadegau'r Cyfrifiad ychydig fisoedd yn ol, dywedodd
Carwyn Jones fod: "Beth sy’n glir wrth edrych ar ganlyniadau’r Cyfrifiad yw fod
dyfodol yr iaith Gymraeg yn nwylo plant a phobl ifanc Cymru" . Ond, ar faes yr
Eisteddfod, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn casglu enghreifftiau gan bobl
ifanc am y gweithgareddau na allant eu gwneud yn y Gymraeg, megis gwersi nofio
yn yr iaith. Yn ôl ymchwil a wnaed gan y grwp pwyso, mae bron i hanner o
gynghorau Cymru yn methu darparu gwersi nofio yn y Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth sifil yn drafftio rheoliadau - y safonau iaith -
allai osod dyletswyddau newydd ar gyrff a chwmniau i ddarparu gwasanaethau. Mewn
cyfarfod diweddar gyda'r Gweinidog Leighton Andrews, galwodd y Gymdeithas ar i'r
Llywodraeth greu hawliau sylfaenol megis hawliau i wersi nofio yn Gymraeg.

Yn ystod y digwyddiad rhannwyd straeon am drafferthion nifer o bobl wrth geisio
sicrhau gwasanaethau yn Gymraeg. Roedd hanes teulu Gareth Williams o Sir y
Fflint am anghysondeb darpariaeth hamdden yn eithaf nodweddiadol o’r problemau.
Yn ei ebost at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ysgrifennodd: “Mae gen i dri o blant,
derbyniodd y ddau hynaf wersi nofio drwy gyfrwng y Saesneg yn nosbarthiadau
nofio sy'n cael eu trefnu yng nghanolfanau hamdden Sir y Fflint. Uniaith Saesneg
oedd gwersi Aled, ond erbyn i Erin ddechrau gwersi roeddwn yn gwerthfawrogi bod
yr athro ifanc yn defnyddio Cymraeg syml yn achlysurol. Mae Siwan - y trydydd
plentyn - yn saith bellach ac yn hyderus iawn yn y dwr ond nid wyf wedi ei
chofrestru ar gyfer gwersi nofio ffurfiol oherwydd wrth wneud ymholiadau am
wersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg cefais yr ateb nad ydynt ar gael ... Oni bai
am wersi clocsio wythnosol, adran yr Urdd a mynychu Ysgol Sul mae pob
gweithgaredd arall sydd ar gael i'r plant yma yn Yr Wyddgrug yn digwydd drwy
gyfrwng y Saesneg.”

Yn siarad yn y brotest ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr
Urdd, dywedodd Sian Howys llefarydd hawliau'r mudiad:  "Nid yw'n ddigon da i ni
orfod dibynnu ar friwsion y Llywodraeth er mwyn sicrhau gwasanaethau sylfaenol
fel gwasanaethau hamdden i'n plant trwy'r Gymraeg. Gallai Carwyn Jones warantu
mynediad ein pobl ifanc, ac eraill, at wersi chwaraeon yn Gymraeg trwy ddatgan y
bydd y safonau yn gwneud hynny'n hawl. Gallai e ddatgan hynny heddiw. Wedi'r
cwbl, fe ddywedodd e mai yn nwylo pobl ifanc y gorwedda dyfodol y Gymraeg.

 

“Mae Llywodraeth hefyd yn datgan, yn gwbl glir, bod presenoldeb y Gymraeg yn y
maes digidol yn rhan hanfodol o'i strategaeth. Mae'n amser felly iddynt ddatgan
y bydd rhyngwynebau Cymraeg ar y dyfeisiadau telegyfathrebu cyfoes, megis ffonau
symudol, o hyn ymlaen. Gallen nhw wneud hynny trwy'r safonau. Nawr yw'r amser
iddynt ei wneud. Mae’n rhaid sefydlu hawliau i'r Gymraeg a fydd yn gwella ac yn
galluogi ei defnydd ar lawr gwlad."

Wrth son am gyfarfod diweddar a gynhalion nhw a'r Gweinidog Leighton Andrews,
ychwanegodd: "Yn ein cyfarfod diweddar gyda’r Gweinidog, pwysleision ni fod
angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr
hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i
gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. Gallai safonau o'r fath, sy'n hawliau
clir i bobl Cymru, helpu'r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion eu
strategaeth iaith. Yn ei ddwylo ef mae un o'r penderfyniadau pwysicaf ynglŷn â’r
iaith - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd
nesaf a mwy."