S4C: ymgyrchwyr yn meddiannu stiwdios BBC Aberystwyth

bbc-aberystwyth.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu stiwdios y BBC yn Aberystwyth ac atal darllediad Radio Cymru heddiw (Dydd Mercher, 16eg Mawrth) fel rhan o'r ymgyrch i atal cynlluniau y BBC a'r Llywodraeth a fydd yn peryglu dyfodol y sianel.Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y BBC i gamu i ffwrdd o'r ddel bresennol gyda'r llywodraeth ac yn hytrach aros am adolygiad cynhwysfawr o S4C yn unol â'r galwadau gan bedwar arweinydd y prif bleidiau yng Nghymru.Mae Llywodraeth Prydain yn cynllunio cwtogi ei grant i S4C o 94%, gyda'r BBC yn cytuno i ariannu'r sianel trwy'r ffi drwydded o 2013/14 a fydd yn golygu toriad o dros 40% mewn termau real i gyllideb y sianel yn ei gyfanrwydd.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae dyfodol yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd yn y fantol oherwydd cynlluniau am doriadau sylweddol i'r sianel ac i'r BBC ei chymryd drosodd. Dyna pam rydyn ni'n ymgyrchu. Mae'r BBC a'r Llywodraeth wedi creu argyfwng yngl?n a darlledu yng Nghymru. Del munud-olaf ac annoeth penaethiaid y Llywodraeth a'r BBC yn Llundain sydd wedi creu'r llanast presennol. Dywedodd Mark Thompson [Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC] bod y gorfforaeth wedi 'cytuno'n rhydd' i'r cynlluniau hyn, ond ar hyn o bryd mae'r gorfforaeth yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb am beryglu dyfodol S4C, sydd yn gamarweiniol tu hwnt."Ychwanegodd Bethan Williams:"Rydym ni'n poeni am ddyfodol S4C dan y cynlluniau hyn ac yn teimlo fod rhaid i ni ddod a'n neges yn uniongyrchol at y BBC er mwyn dangos ein pryder. Rydym ni yn gofyn i bawb gefnogi'r ymgyrch yma ym mha ffordd bynnag y gallan nhw wneud."Protestwyr yn atal un o raglenni Radio Cymru - golwg360 - 16/03/2011Language campaigners disrupt show - Western Mail - 17/03/2011